Sut mae’r Cynllun Kickstart yn gweithio
Darganfyddwch sut mae'r cynllun Kickstart yn gweithio a gwiriwch os yw eich sefydliad yn gymwys i wneud cais.
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Canllawiau cyflogwr
Mae ceisiadau Cynllun Kickstart wedi cau.
Gwiriwch y dyddiadau cau eraill ar gyfer cwblhau tasgau Cynllun Kickstart.
-
Darganfyddwch sut mae’r Cynllun Kickstart yn gweithio
Os ydych yn borth Kickstart, gwiriwch y canllawiau ar gyfer pyrth.
Trosolwg
Mae Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i greu swyddi newydd ar gyfer pobl 16 i 24 oed sydd ar Gredyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o ddiweithdra tymor hir.
Gwnaeth ceisiadau i’r Cynllun Kickstart gau am hanner dydd ar 17 Rhagfyr 2021
I gyflogwyr sydd wedi cael cais llwyddiannus, mae’r arian yn cwmpasu:
- 100% o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (Ա’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn dibynnu ar oed y sawl sy’n cymryd rhan) am 25 awr yr wythnos am gyfanswm o 6 mis
- cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr cysylltiedig
Gall cyflogwyr ledaenu y dyddiadau dechrau swyddi hyd at 31 Rhagfyr 2021.Byddwch yn derbyn cyllid tan 30 Mehefin 2022 os yw person ifanc yn dechrau yn ei swydd.
Mae cyllid pellach ar gael i ddarparu cefnogaeth fel bod pobl ifanc ar y cynllun yn gallu cael swydd yn y dyfodol.
Beth fyddwch yn ei gael
£1,500 fesul swydd
Byddwch yn cael cyllid o £1,500 fesul swydd. Dylai hyn gael ei wario ar gostau sefydlu a chefnogi’r person ifanc i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd.
Er enghraifft:
- cefnogaeth hyfforddiant a chyflogadwyedd (a ddarperir gennych chi, porth Kickstart neu ddarparwr arall)
- offer a meddalwedd TG
- gwisg neu Offer Amddiffynnol Personol
Efallai bydd DWP yn gofyn i chi am eich cofnodion i ddangos eich bod wedi gwario’r cyllid ar gostau sefydlu ac yn cefnogi cyflogadwyedd y person ifanc.
Cyflog a chostau perthnasol Cynllun Kickstart
Ѳ’r cyllid yn cwmpasu:
- 100% o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (Ա’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn dibynnu ar oed y sawl sy’n cymryd rhan) am 25 awr yr wythnos am gyfanswm o 6 mis
- cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr cysylltiedig
Gall cyflogwyr dalu cyflog uwch ac am fwy o oriau, ond ni fydd y cyllid yn cwmpasu hyn.
Beth fydd y porth Kickstart yn ei gael
Os gwnaethoch gais drwy borth Kickstart, byddant yn cael £360 am bob swydd i gwmpasu’r costau gweinyddol. Efallai bydd yn rhaid iddynt dalu TAW ar y swm hwn yn dibynnu ar eu hamgylchiadau unigol.
Os nad ydynt yn talu TAW, bydd £60 o’r taliad hwn yn cael ei dalu i chi gan y porth Kickstart (yn ychwanegol i’r cyllid o £1,500 am gostau sefydlu) i roi cefnogaeth bellach i’r person ifanc.
Meini prawf y swydd
Mae rhaid i’r swyddi a grëir gyda chyllid cynllun Kickstart fod yn swyddi newydd. Mae’n rhaid iddynt beidio â:
- disodli swyddi gwag presennol neu rai sydd wedi’u cynllunio
- achosi i weithwyr, prentisiaid neu gontractwyr presennol golli gwaith neu leihau eu horiau gwaith
Mae’n rhaid i’r swyddi:
- fod am isafswm o 25 awr yr wythnos, am 6 mis
- talu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol ar gyfer grŵp oedran y gweithiwr
- ond bod angen hyfforddiant sylfaenol
Ar gyfer pob swydd mae’n rhaid i chi helpu’r person ifanc i ddod yn fwy cyflogadwy. Gallai hyn gynnwys:
- chwilio am waith hir dymor, gan gynnwys cyngor gyrfa a gosod nodau
- cefnogaeth gyda curriculum vitae (CV) a pharatoi am gyfweliadau
- datblygu eu sgiliau yn y gweithle
Os ydych wedi methu’r dyddiad cais ar gyfer gwneud cais neu wedi cael cais aflwyddiannus, darganfyddwch am gynlluniau cyflogaeth eraill.
Efallai bydd y person ifanc yn gallu symud i gynllun cyflogaeth arall pan fyddant wedi gorffen eu swydd 6 mis Cynllun Kickstart.
Cael y bobl ifanc i mewn i swyddi
Mae swyddi Cynllun Kickstart dim ond ar gael i hawlwyr Credyd Cynhwysol rhwng 16 a 24 oed sydd wedi cael eu hatgyfeirio atoch gan DWP.
Os yw eich cais yn llwyddiannus:
-
Byddwch chi neu’ch porth Kickstart yn rhoi disgrifiadau swydd i DWP y bydd anogwyr gwaith yn y Ganolfan Byd Gwaith yn eu defnyddio i baru ymgeiswyr â’r swyddi.
-
Byddwch chi neu’ch porth Kickstart yn derbyn e-bost yn hysbysu bob tro y bydd person ifanc yn cael ei atgyfeirio at y swydd (‘atgyfeiriadau�).
-
Gall ymgeiswyr a atgyfeirir ddewis ymgeisio am y swydd.
-
Yna byddwch chi’n gallu cyfweld â’r ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais.
-
Byddwch chi neu’ch porth Kickstart yn dweud wrth DWP pan fydd y person ifanc wedi dechrau er mwyn i ni allu prosesu’r cyllid. Byddwch yn cael gwybod sut i wneud hwn yn yr ebost ‘atgyfeirio�.
Gwiriwch y dyddiadau cau eraill ar gyfer cwblhau tasgau Cynllun Kickstart.
Gallwch hysbysebu swyddi gwag eich hun, ond rhaid i bob swydd gael cyflwyniad drwy anogwr gwaith DWP i gael cyllid llawn.
Os bydd person ifanc yn gadael y swydd yn gynnar
Rhaid i chi anfon e-bost at yr Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted â phosibl os yw person ifanc naill ai:
- yn gadael eu swydd cyn diwedd y cyfnod o 6 mis
- angen gadael eu swydd dros dro (er enghraifft ar gyfer absenoldeb arbennig neu gyfyngiadau sy’n gysylltiedig â COVID-19)
Y cyfeiriad e-bost yw’r un a ddefnyddiwch i ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau am ddyddiad dechrau’r person ifanc. Byddwch yn cael gwybod sut i wneud hyn yn yr e-bost ‘atgyfeirio� a gewch pan fydd anogwr gwaith yn cyfeirio person ifanc at eich swydd wag.
Os bydd person ifanc yn gadael ei swydd yn gynnar, y taliad cyflog nesaf a drefnwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau fydd yr olaf y byddwch yn ei dderbyn ar ei gyfer.
Efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gallu ymestyn y cyfnod ariannu os bydd yn rhaid i’r person ifanc roi’r gorau i weithio dros dro.
Sut fyddwch yn cael y cyllid
Os gwnaethoch gais ar-lein, bydd DWP yn anfon y cyllid yn uniongyrchol atoch.
Os gwnaethoch gais drwy borth Kickstart, bydd DWP yn anfon y cyllid iddynt hwy. Bydd y porth Kickstart yn gyfrifol am anfon y cyllid atoch o fewn 5 diwrnod gwaith.
Amserlen cyllid
Ѳ’r tabl yn dangos pryd yr anfonir y cyllid at naill ai:
- atoch chi os gwnaethoch gais yn uniongyrchol
- eich porth (yna bydd angen iddynt drosglwyddo’r cyllid atoch o fewn 5 diwrnod gwaith)
Math o gyllid | Pan fyddwn fel arfer yn prosesu’r cyllid | Pan fyddwch fel arfer yn derbyn yr arian |
---|---|---|
Costau sefydlu | Ar ôl i chi neu’ch porth ddweud wrth DWP, bod y person ifanc wedi dechrau (gwnewch hyn erbyn 11:59pm ar 30 Tachwedd 2022) | Hyd at 11 diwrnod gwaith ar ôl iddo gael ei brosesu |
Taliad cyflog cyntaf | 6 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau | Hyd at 11 diwrnod gwaith ar ôl iddo gael ei brosesu |
Pob taliad cyflog arall | 30 diwrnod ar ôl y taliad cyflog blaenorol | Hyd at 11 diwrnod gwaith ar ôl iddo gael ei brosesu |
Dewch o hyd i wybodaeth fanylach ynglŷn â sut rydych chi’n rheoli’r cyllid.
Sut i wneud cais
Gwnaeth ceisiadau i’r Cynllun Kickstart gau am hanner dydd ar 17 Rhagfyr 2021.
Edrychwch i weld os ydych yn gymwys am gyllid gan gynlluniau cyflogaeth eraill.
Cynlluniau cyflogaeth eraill
Mae Cynllun Kickstart yn rhan o Gynllun Swyddi y Llywodraeth. Mae cynlluniau cyflogaeth eraill yn hyn yn cynnwys:
Prentisiaethau
Efallai y gallech gael cyllid am unrhyw brentisiaid rydych yn eu cyflogi yn Lloegr. Darganfyddwch fwy am brentisiaethau.
Academïau gwaith yn seiliedig ar sector (SWAP)
Gall y Ganolfan Byd Gwaith eich cefnogi i greu gweithlu medrus ar gyfer eich busnes drwy gynnig academïau gwaith yn seiliedig ar sector i bobl di-waith yn Lloegr a’r Alban.
Hyfforddeiaethau
Gall cyflogwyr yn Lloegr hefyd helpu pobl ifanc drwy sefydlu hyfforddeiaeth. Mae cyllid ar gael ar gyfer y cynllun hwn.
Hyderus o ran Anabledd
Ѳ’r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn darparu cyflogwyr gyda gwybodaeth, sgiliau a’r hyder maent eu hangen i wneud y mwyaf o dalentau y gall pobl anabl ddod i’r gweithle.
Cymorth cyflogaeth a recriwtio
Cyflogi rhywun gam wrth gam
Hysbysebu swydd
Cyngor recriwtio a chymorth
Updates to this page
-
ʹapp deadline for telling DWP that a young person has started their job is 30 November 2022.
-
Updated page because the deadline for telling us that the young person has started their job has now passed.
-
Updated page to say applications for Kickstart Scheme funding closed at midday on 17 December 2021 and removed information on how to apply.
-
Added deadlines for completing Kickstart Scheme tasks.
-
Added information about Kickstart Scheme applications closing on 17 December 2021 and that job start dates have been extended to 31 March 2022.
-
First published.