Sut mae’r cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus yn effeithio ar daliadau heb eu hawdurdodi
Os oedd gennych daliadau heb eu hawdurdodi i’ch pensiwn yn ystod cyfnod y cynllun unioni, dysgwch sut y gallai’r cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus (a elwir yn McCloud) fod wedi effeithio ar y rhain.
Os cawsoch daliadau heb eu hawdurdodi o’ch cynllun pensiwn yn ystod cyfnod y cynllun unioni, dysgwch sut y gallai’r cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus (a elwir yn McCloud) fod wedi effeithio ar y rhain.
O ganlyniad i’r cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus, efallai y bydd swm y buddiannau sy’n daladwy gan eich cynllun pensiwn a oedd yn cael eu trin fel taliad heb ei awdurdodi wedi newid os yw eich hawl i fuddiannau wedi newid. Gallai hyn arwain at gynnydd neu ostyngiad yn y cyfandaliad a gawsoch yn wreiddiol. Gallai hyn olygu’r canlynol:
- efallai nad oes gennych daliad heb ei awdurdodi mwyach
- bod eich ffioedd taliadau heb eu hawdurdodi wedi gostwng
- bod eich ffioedd taliadau heb eu hawdurdodi wedi cynyddu
Beth yw taliad heb ei awdurdodi
Mae’r rheolau treth yn pennu’r amodau y mae angen eu bodloni er mwyn awdurdodi taliadau. Mae unrhyw daliad nad yw’n bodloni’r amodau hyn yn daliad heb ei awdurdodi (yn agor tudalen Saesneg).
Dyma enghreifftiau cyffredin o adegau pan fo taliadau’n cael eu hystyried yn rhai heb eu hawdurdodi:
- cymryd cyfandaliadau cychwyn pensiwn sy’n fwy na 25% o’ch cronfa bensiwn, a elwir yn gyfandaliad sydd dros ben
- y rhan fwyaf o gyfandaliadau i gael arian o, neu i gyrchu, cronfeydd pensiwn cyn 55 oed, heblaw am yr eithriadau canlynol:
- pan fo’r aelod yn ymddeol oherwydd salwch
- os oedd gan yr aelod, cyn 6 Ebrill 2006, yr hawl drwy’r cynllun pensiwn i gymryd ei bensiwn cyn troi’n 55 oed
- pan fo uchafswm y cyfandaliad sy’n daladwy o dan reolau’r cynllun yn fwy nag uchafswm y cyfandaliad cychwyn pensiwn a ganiateir
Os yw eich cynllun wedi gordalu eich buddiannau
Os ydych, o ganlyniad i’r cynllun unioni, wedi cael gordaliad o fuddiannau o’ch cynllun, efallai y bydd eich cynllun yn gofyn i chi ad-dalu’r swm dros ben a gawsoch.
Os bydd y cyfandaliad sydd dros ben - yr ystyriwyd yn daliad heb ei awdurdodi - yn cael ei ad-dalu, o ganlyniad i’r cynllun unioni, caiff ei drin fel na fu erioed yn daliad heb ei awdurdodi. Mae hyn yn golygu y gallai’r ffioedd taliadau heb eu hawdurdodi gael eu gostwng, neu efallai na fyddant yn berthnasol mwyach
Ar gyfer y blynyddoedd treth rhwng, a gan gynnwys, 2019 i 2020 a 2021 i 2022, gallwch hawlio ad-daliad am ffioedd treth wedi’u gordalu (yn agor tudalen Saesneg) drwy gysylltu â CThEF.
Ar gyfer y blynyddoedd treth rhwng, a gan gynnwys, 2015 i 2016 a 2018 i 2019, gallwch hawlio iawndal am ffioedd treth wedi’u gordalu (yn agor tudalen Saesneg) drwy gysylltu â CThEF.
Cael ad-daliad
Os oedd y gostyngiad yn y ffi rhwng, a gan gynnwys, y blynyddoedd treth 2019 i 2020 a 2021 i 2022, ac:
-
mai chi dalodd y ffi wreiddiol � bydd CThEF yn eich ad-dalu’n uniongyrchol
-
mai eich cynllun dalodd y ffi wreiddiol � bydd eich cynllun yn cysylltu â CThEF i gael ad-daliad
Os oedd y gostyngiad yn y ffi rhwng, a gan gynnwys, y blynyddoedd treth 2015 i 2016 a 2018 i 2019, ac:
-
mai chi dalodd y ffi wreiddiol � bydd eich cynllun yn cysylltu â chi i drefnu ad-daliad
-
mai eich cynllun dalodd y ffi wreiddiol � bydd eich cynllun yn gwneud y newidiadau angenrheidiol
Os oes gennych ffi ychwanegol i’w thalu
Os yw eich cyfandaliad sydd dros ben bellach yn uwch nag yr oedd o’r blaen, o ganlyniad i’r cynllun unioni, efallai y bydd eich ffioedd taliadau heb eu hawdurdodi yn cynyddu.
Os digwyddodd y taliad heb ei awdurdodi rhwng, a gan gynnwys, y blynyddoedd treth 2015 i 2016 a 2018 i 2019, nid oes angen i chi dalu unrhyw ffioedd ychwanegol.
Os digwyddodd y taliad heb ei awdurdodi rhwng, a gan gynnwys, y blynyddoedd treth 2019 i 2020 a 2021 i 2022, bydd angen i chi dalu’r ffi wedi’i gynyddu. Efallai y bydd eich cynllun yn cynnig talu’r ffioedd taliadau heb eu hawdurdodi ar eich rhan, ond chi sy’n gyfan gwbl atebol am y dreth.
Os byddwch yn penderfynu talu’r ffi eich hun, cysylltwch â CThEF i gael asesiad ar gyfer y ffi newydd (yn agor tudalen Saesneg). Does dim angen i chi ddiweddaru’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad.