Gwneud newidiadau i'r gofrestr
Sut i wneud cais i newid neu ddiweddaru’r gofrestr, o newid manylion sy'n bodoli i gofrestru tir am y tro cyntaf.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae cofrestru tir yn gymhleth, wedi ei gynllunio i warchod buddion cyfreithiol ac ariannol mewn eiddo. Gall unrhyw wall arwain at ganlyniadau sylweddol. Dylech ystyried cael cynrychiolaeth gyfreithiol. Cyn gwneud cais heb gynrychiolaeth gyfreithiol, mae’n bwysig ystyried manteision defnyddio trawsgludwr.
Canllawiau
Diweddaru eich enw | Ceir nifer o resymau i ddiweddaru eich enw, gan gynnwys priodas, ysgariad neu newid neu gadarnhau eich rhyw. Gallwch ddod o hyd i ganllaw penodol ar newid eich enw ar ôl priodas hefyd. |
Cofrestru eich tir ac eiddo am y tro cyntaf | Mae angen ichi gofrestru tir neu eiddo, os nad yw eisoes wedi ei gofrestru, pan fyddwch yn ei brynu neu yn ei forgeisio. Ystyriwch geisio cynrychiolaeth gyfreithiol. |
Delio gydag ystad rhywun sydd wedi marw Diweddaru cofnodion eiddo pan fydd rhywun yn marw |
Pan fydd perchennog eiddo yn marw, bydd angen ichi newid y gofrestr teitl i adlewyrchu’r berchnogaeth newydd. Mae’r canllaw hwn yn esbonio’r dewisiadau sydd ar gael ichi. Ystyriwch geisio cynrychiolaeth gyfreithiol. |
Llofnodi gweithred morgais ddigidol | Sut i ddefnyddio’n gwasanaeth |