Cyfrifo â llaw Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol
Dysgwch sut mae cyfrifo tâl eich cyflogai eich hun os nad yw eich meddalwedd cyflogres, neu’r rhaglen gyfrifo ar gyfer cyflogwyr yn cyfrifo beth mae ganddo’r hawl iddo.
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Cyn i chi ddechrau
Mae angen yr wybodaeth ganlynol arnoch i gyfrifo Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol eich cyflogai:
- y datganiad wedi’i lenwi gan eich cyflogai (yn agor tudalen Saesneg), neu eich fersiwn eich hun os oes gennych un
- dyddiad geni’r plentyn (dyddiad geni pob plentyn, ar gyfer genedigaethau lluosog)
- y dyddiad y dechreuodd y plentyn gael gofal newyddenedigol (y dyddiad y dechreuodd pob plentyn gael gofal newyddenedigol, yn achos genedigaethau lluosog)
- y dyddiad y daeth gofal newyddenedigol y plentyn i ben (y dyddiad y daeth gofal newyddenedigol pob plentyn i ben, yn achos genedigaethau lluosog)
- y dyddiad y mae am i’w Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol ddechrau, a sawl wythnos o dâl yr hoffai eu hawlio
- ei enillion gros a’r dyddiadau y gwnaethoch eu talu
- y dyddiad y dechreuodd weithio i chi
Mae angen i chi hefyd wirio a yw enillion gros eich cyflogai:
- yn agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 y cyflogwr
- neu y byddent yn agored i gyfraniadau petai’n ennill digon, neu’n ddigon hen i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1
Sut i gyfrifo enillion wythnosol cyfartalog
Rhaid i enillion wythnosol cyfartalog gynnwys yr holl enillion gros y mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1:
- yn ddyledus
- neu y byddent yn ddyledus (petai enillion y cyflogai yn ddigon uchel, neu petai’n ddigon hen i’w talu)
Mae hawl eich cyflogai i gael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol (yn agor tudalen Saesneg) yn dibynnu ar ei enillion wythnosol cyfartalog yn y cyfnod perthnasol.
Fel arfer, y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 8 wythnos cyn yr wythnos berthnasol.
Dechrau’r cyfnod perthnasol yw’r diwrnod ar ôl y diwrnod cyflog arferol diwethaf, sydd o leiaf 8 wythnos cyn diwedd y cyfnod perthnasol.
Diwedd y cyfnod perthnasol yw’r diwrnod cyflog arferol olaf ar ddydd Sadwrn yr wythnos berthnasol, neu cyn hynny.
Ni all ei enillion wythnosol cyfartalog yn y cyfnod perthnasol fod yn llai na’r terfyn enillion isaf.
Dewch o hyd i’r terfyn enillion isaf (LEL) ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar gyfer y flwyddyn dreth berthnasol (yn agor tudalen Saesneg).
Cyflogeion sy’n cael eu talu bob mis
I gyfrifo enillion wythnosol cyfartalog eich cyflogai:
- adiwch ei holl enillion gros yn y cyfnod perthnasol
- rhannwch ei holl enillion gros â nifer y misoedd calendr yn y cyfnod perthnasol
- lluoswch y ffigur â 12 (nifer y misoedd yn y flwyddyn)
- yna rhannwch y ffigur â 52 (nifer yr wythnosau yn y flwyddyn)
Cyflogeion heb eu talu’n fisol
I gyfrifo enillion wythnosol cyfartalog eich cyflogai:
- adiwch ei holl enillion gros yn y cyfnod perthnasol
- rhannwch ei holl enillion gros â nifer y diwrnodau yn y cyfnod perthnasol
- yna lluoswch y ffigur â 7 (nifer y diwrnodau mewn wythnos)
Yn cael ei dalu bob wythnos, heb wythnosau llawn
Efallai y byddwch yn dod â diwrnod cyflog arferol eich cyflogai ymlaen oherwydd gwyliau banc (fel y Pasg neu’r Nadolig).
I gyfrifo enillion wythnosol cyfartalog eich cyflogai:
- adiwch ei holl enillion gros
- rhannwch ei holl enillion gros â nifer yr wythnosau y cafodd ei dalu amdanynt mewn gwirionedd, nid nifer yr wythnosau yn y cyfnod perthnasol
Yn cael ei dalu am wythnosau amryfal
I gyfrifo enillion wythnosol cyfartalog eich cyflogai:
- adiwch ei holl enillion gros yn y cyfnod perthnasol
- rhannwch ei holl enillion gros â nifer yr wythnosau llawn yn y cyfnod perthnasol
Talu bob mis heb fisoedd llawn
Yn gyntaf, cyfrifwch nifer y misoedd wedi’u talgrynnu fel a ganlyn:
- cyfrwch nifer y misoedd cyfan
- cyfrwch nifer y diwrnodau od
Yna, talgrynnwch i fyny neu i lawr fel a ganlyn:
- ar gyfer unrhyw fis ac eithrio mis Chwefror � 15 diwrnod neu lai, talgrynnu i lawr; 16 diwrnod neu fwy, talgrynnu i fyny
- ar gyfer mis Chwefror � 14 diwrnod neu lai, talgrynnu i lawr; 15 diwrnod neu fwy, talgrynnu i fyny
I gyfrifo enillion wythnosol cyfartalog eich cyflogai:
- adiwch ei holl enillion gros yn y cyfnod perthnasol
- rhannwch ei holl enillion gros â nifer y misoedd calendr wedi’u talgrynnu yn y cyfnod perthnasol
Dim patrwm tâl rheolaidd
I gyfrifo enillion wythnosol cyfartalog eich cyflogai:
- adiwch ei holl enillion gros yn y cyfnod perthnasol
- rhannwch ei holl enillion gros â nifer y diwrnodau yn y cyfnod perthnasol
- yna lluoswch y ffigur â 7 (nifer y diwrnodau mewn wythnos)
Tâl wedi’i gamamseru
Mae hyn yn berthnasol os yw eich cyflogai’n cael ei dalu ar yr un dyddiad o dan gontract, ond eich bod yn ei dalu’n gynt neu’n hwyrach na’i ddiwrnod cyflog contractiol oherwydd y gallai’r dyddiad hwnnw fod ar benwythnos neu ŵyl banc.
I gyfrifo enillion wythnosol cyfartalog eich cyflogai:
- adiwch ei holl enillion gros yn y cyfnod perthnasol
- rhannwch ei holl enillion gros â nifer yr wythnosau o gyflog a dalwyd iddo mewn gwirionedd
Peidiwch â defnyddio’r cyfrifiad hwn os nad yw eich cyflogai wedi cael digon o dâl o ganlyniad i wall yn y gyflogres.
Tandaliadau neu ordaliadau enillion
Dim ond i gyfrifo ei enillion wythnosol cyfartalog y dylech ddefnyddio’r holl enillion gros a dalwyd i’ch cyflogai o fewn y cyfnod perthnasol.
Os oes gordaliad neu dandaliad o fewn y cyfnod perthnasol, cynhwyswch y swm wrth gyfrifo ei enillion wythnosol cyfartalog i weld a oes ganddo’r hawl i gael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol.
Aberthu cyflog
Os oes gan eich cyflogai drefniant aberthu cyflog â chi, defnyddiwch swm yr enillion a dalwyd iddo yn ystod y cyfnod perthnasol i gyfrifo ei enillion wythnosol cyfartalog.
Peidiwch â chynnwys gwerth yr aberth cyflog.
Buddiannau sy’n rhan o’r contract
Dylai eich cyfrifiad ar gyfer Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol fod yn seiliedig ar enillion sy’n ddarostyngedig i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn unig.
Peidiwch â chynnwys unrhyw fuddiannau sydd wedi’u heithrio o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1.
Enillion y mae codiad cyflog wedi’i ôl-ddyddio yn effeithio arnynt
Os yw eich cyflogai’n cael codiad cyflog wedi’i ôl-ddyddio sy’n cynyddu swm yr enillion sydd eisoes wedi’u talu yn y cyfnod perthnasol, mae angen i chi ail-gyfrifo ei enillion wythnosol cyfartalog i gynnwys y swm hwn.
Dylech wneud hyn os yw un o’r canlynol yn berthnasol i’r cyflogai:
- nid oes gan y cyflogai hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol
- mae gan y cyflogai hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol ar gyfradd sy’n is na’r gyfradd safonol
Dewch o hyd i gyfradd safonol cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar gyfer y flwyddyn dreth berthnasol (yn agor tudalen Saesneg).
Rhaid i chi ail-gyfrifo ei enillion wythnosol cyfartalog i weld a yw’r canlynol yn berthnasol iddo:
- mae ganddo hawl nawr (a thalwch unrhyw Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol sy’n ddyledus iddo)
- mae ganddo hawl i gynnydd (a thalwch unrhyw Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol ychwanegol sy’n ddyledus iddo)
Sut i gyfrifo Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol
Pan fyddwch wedi cyfrifo enillion wythnosol cyfartalog eich cyflogai, gallwch wedyn gyfrifo faint o Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol sy’n ddyledus, a phryd.
Os yw eich cyflogai’n gymwys, gall benderfynu pryd a sut i gymryd ei hawl i gael Absenoldeb Gofal Newyddenedigol (yn agor tudalen Saesneg).
Os yw wedi rhoi rhybudd ei fod eisiau cymryd Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol Statudol, ac wedi llenwi’r datganiad, byddwch yn talu’ch cyflogai yn ystod cyfnod y Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol:
- sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r cyflogai wedi rhoi rhybudd ac wedi llenwi datganiad ar ei gyfer
- sy’n para am bob wythnos y mae’n cael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol
Cysoni Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol eich cyflogai â’i gyfnod cyflog arferol
Gallwch dalu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol fesul rhannau o wythnosau i’ch helpu i gysoni’r taliadau â chyfnod cyflog arferol eich cyflogai.
I gysoni’r taliadau:
- rhannwch ei gyfradd Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol wythnosol â 7 (nifer y diwrnodau mewn wythnos)
- yna lluoswch y ffigur â nifer y diwrnodau y mae’r Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol yn ddyledus iddo yn yr wythnos neu’r mis
Er enghraifft, os yw cyfnod cyflog arferol eich cyflogai yn cwmpasu 2 ddiwrnod mewn un mis, a 5 diwrnod ar ddechrau’r mis nesaf (2 ddiwrnod ym mis Ebrill a 5 diwrnod ym mis Mai), i gysoni’r Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol â’i gyfnod cyflog arferol:
- talwch werth dwy ran o saith iddo ar gyfer mis Ebrill
- talwch werth pum rhan o saith iddo ar gyfer mis Mai
Ni allwch dalu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol eich cyflogai am ran o’r wythnos.
Os yw eich cyflogai yn cymryd Absenoldeb Gofal Newyddenedigol Statudol pan fydd ei faban yn dal i fod mewn gofal newyddenedigol, gan gynnwys yn ystod yr wythnos wedyn (cyfnod Haen 1), ond bod absenoldeb arall sydd wedi’i drefnu ymlaen llaw (fel Absenoldeb Tadolaeth neu Absenoldeb Rhiant a Rennir) yn tarfu ar hynny yng nghanol yr wythnos, mae’n rhaid i chi dalu’r Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol iddo am yr wythnos lawn.
Help a chyngor
Cysylltwch ag ymholiadau cyffredinol ar gyfer cyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) os oes angen rhagor o help neu gyngor arnoch chi.