Canllawiau

Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: deddfwriaeth caniatâd datblygu

Gwybodaeth am y ddeddfwriaeth yn ymwneud â Phrosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: proses caniatâd datblygu

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Gellir gweld y ddeddfwriaeth ddomestig sy’n rheoli proses Deddf Cynllunio 2008 yn . Mae’n cynnwys:

  • Deddfwriaeth sylfaenol â€� gan gynnwys Deddf Cynllunio 2008 a’r Deddfau Seneddol dilynol sydd wedi diwygio ei chynnwys, fel Deddf Lleoliaeth 2011
  • Is-ddeddfwriaeth – Rheolau, Rheoliadau a Gorchmynion Cychwyn ac ati

Gellir gweld Deddfwriaeth Ewropeaidd sy’n effeithio ar Ddeddf Cynllunio 2008 yn .

Hysbysiad pwysig i ddefnyddwyr : Pan fydd deddfwriaeth newydd yn diwygio neu’n diddymu darpariaethau mewn deddfwriaeth sy’n bodoli, fe allai fod cryn oedi rhwng yr adeg y daw’r ddeddfwriaeth newydd i rym a’r adeg y diweddarir y darpariaethau yr effeithir arnynt yn y ddeddfwriaeth ddiwygiedig. Er mwyn deall p’un a yw’r ddeddfwriaeth rydych yn edrych arni’n gyfredol neu a oes newidiadau (fel effeithiau neu ddiwygiadau) nad ydynt wedi’u cymhwyso iddi eto, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y cyngor diweddaraf  ar legislation.co.uk. Fel arall, fe allech ddymuno cyfeirio at wasanaeth masnachol sy’n darparu diweddariadau i ddeddfwriaeth yr effeithir arni gyda’r holl ddiwygiadau wedi’u hymgorffori yn brydlon.   

1. Deddfwriaeth sylfaenol

 (a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 26 Tachwedd 2008)

Y ddeddfwriaeth sylfaenol a sefydlodd y fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwneud cais am Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, eu harchwilio a phenderfynu arnynt; gan ystyried y Datganiadau Polisi Cenedlaethol.

Fel y’i diwygiwyd gan y canlynol:

  • Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009
  • Deddf Lleoliaeth 2011
  • Deddf Twf a Seilwaith 2013
  • Deddf Seilwaith 2015
  • Deddf Tai a Chynllunio 2016 a Deddf Cymru 2017
  • Deddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023

 (a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 12 Tachwedd 2009)

Y ddeddfwriaeth sylfaenol sydd, ymhlith materion eraill, yn diwygio darpariaethau penodol Deddf Cynllunio 2008, gan gynnwys adrannau 42 a 104. Mae hefyd yn diddymu adrannau 148 a 149 ac yn mewnosod adran 149A newydd.

 (a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 15 Tachwedd 2011)

Diddymodd Deddf Lleoliaeth 2011 y Comisiwn Cynllunio Seilwaith a throsglwyddodd bwerau penderfynu’r Comisiwn i’r Ysgrifennydd Gwladol. Mae’r Ddeddf Lleoliaeth hefyd yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Ddeddf Cynllunio 2008 sy’n newid rhai agweddau ar y weithdrefn ar gyfer ceisio caniatâd datblygu ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol.

 (a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 25 Ebrill 2013)

Mae Deddf Twf a Seilwaith 2013 yn cynnwys darpariaeth, ymhlith pethau eraill, ynglŷn â hwyluso neu reoli’r ddarpariaeth neu’r defnydd o seilwaith, cynnal datblygiad a chaffael tir a hawliau’n orfodol.

 (a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 12 Chwefror 2015)

Mae Deddf Seilwaith 2015 yn cynnwys darpariaeth, ymhlith pethau eraill, i newid amseriad penodi’r Awdurdod Archwilio, yn darparu ar gyfer Paneli â dau unigolyn ac yn diwygio’r broses ar gyfer gwneud newidiadau i Orchmynion Caniatâd Datblygu a’u dirymu.

 (a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 12 Mai 2016)

Mae Deddf Tai a Chynllunio 2016 yn cynnwys darpariaeth ynglŷn â thai, gwerthwyr tai, taliadau rhent, cynllunio a phrynu gorfodol. Mae Adran 160 y Ddeddf Tai a Chynllunio yn diwygio a115 Deddf Cynllunio 2008 i ganiatáu ar gyfer cynnwys elfen o dai yn rhan o ddatblygiad y gallai caniatâd datblygu gael ei roi iddo.

 (a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 31 Ionawr 2017)

Mae Deddf Cymru 2017 yn diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 trwy symud i fodel cadw pwerau ar gyfer Cymru. Mae Deddf Cymru yn datganoli pwerau i Lywodraeth Cymru ar gyfer meysydd yn cynnwys caniatáu prosiectau ynni newydd, ffracio, trwyddedu morol a harbyrau. Mae’r darpariaethau hyn yn datgymhwyso pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Cynllunio 2008 i roi caniatâd datblygu ar gyfer pob gorsaf cynhyrchu trydan yng Nghymru ac yn nyfroedd tiriogaethol Cymru i’r graddau nad yw prosiectau o’r fath (heb gynnwys gorsafoedd cynhyrchu a bwerir gan ynni’r gwynt ar y tir) yn fwy na chapasiti o 350MW; a phob gorsaf cynhyrchu a bwerir gan ynni’r gwynt ar y tir. Mae hefyd yn caniatáu i ‘Ddatblygiad Cysylltiedig� penodol yng Nghymru gael ei ganiatáu o dan Ddeddf Cynllunio 2008.

 (a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 26 Hydref 2023)

Mae Deddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023 yn cynnwys darpariaeth, ymhlith pethau eraill, sy’n:

  • galluogi rheoliadau i osod ffioedd ar gyfer gwasanaethau penodol yn ymwneud â Phrosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (a126)
  • rhoi’r pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol fyrhau’r terfyn amser ar gyfer archwilio ceisiadau am orchymyn caniatâd datblygu (a127)
  • galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol i wneud darpariaethau mewn perthynas â newidiadau ansylweddol i orchmynion caniatâd datblygu (a128)

2.Ìý±õ²õ-»å»å±ð»å»å´Ú·É°ù¾±²¹±ð³Ù³ó

Gellir gweld is-ddeddfwriaeth sy’n rheoli proses Deddf Cynllunio 2008 yn .

Pan gyfeirir at is-ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r llywodraeth ynglŷn â phroses Deddf Cynllunio 2008, neu yng nghyfres o nodiadau cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio, darperir dolen uniongyrchol i’r offeryn perthnasol ar , fel arfer.

Dyma rai o’r offerynnau y cyfeirir atynt fynychaf yn y cyngor a’r canllawiau uchod:

  • , fel y’u diwygiwyd gan

Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys yr holl is-ddeddfwriaeth sy’n rheoli proses Deddf Cynllunio 2008. Gweler  am y gyfres lawn o offerynnau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Ionawr 2012

Argraffu'r dudalen hon