Cynhyrchu hylif a gel diheintio dwylo ar gyfer coronafeirws (COVID-19)
Newidiadau dros dro i’r defnydd a’r cyflenwad o alcohol wedi’i annatureiddio a gwirodydd di-doll, er mwyn helpu busnesau sy’n cynhyrchu hylif a gel diheintio dwylo.
O 1 Ebrill 2022 ymlaen, bydd rhai o’r mesurau dros dro i helpu busnesau sy’n cynhyrchu hylif a gel diheintio dwylo yn dod yn fesurau parhaol. Bydd hwn yn berthnasol ar gyfer y canlynol yn unig:
- os ydych wedi’ch awdurdodi i ddefnyddio gwirod di-doll er mwyn cynhyrchu hylif diheintio dwylo ar gyfer ysbytai
- ar gyfer dileu terfynau ar alcohol wedi’i annatureiddio a gwirodydd di-doll a ddefnyddir wrth gynhyrchu hylif diheintio dwylo
Ni fydd unrhyw un o’r mesurau dros dro eraill ar gael ar ôl 1 Ebrill 2022.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y gofynion o ran cynhyrchu, dosbarthu a defnyddio alcohol wedi’i annatureiddio (Hysbysiad Ecséis 473) ac o ran defnyddio gwirodydd di-doll at ddibenion meddygol neu wyddonol, neu weithgynhyrchu (Hysbysiad Ecséis 47).
Os ydych yn defnyddio’r mesurau dros dro hyn, mae’n rhaid i chi barhau i ddilyn y canlynol:
- arweiniad CThEM ynghylch cynhyrchu, cyflenwi neu ddefnyddio alcohol wedi’i annatureiddio
- arweiniad diogelwch i ddiwydiannau ynghylch cynnyrch cosmetig gan y Swyddfa ar gyfer Diogelwch Cynhyrchion a’r Swyddfa ar gyfer Diogelwch a Safonau Cynhyrchion
- cyngor gan yr Asiantaeth Rheoli Meddyginiaethau a chynhyrchion Gofal Iechyd ynghylch penderfynu a yw’ch cynnyrch yn feddyginiaeth neu’n ddyfais feddygol
- arweiniad ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ynghylch
- Arweiniad yr Adran Drafnidiaeth ar gludo nwyddau peryglus
Bydd CThEM yn rhoi o leiaf 30 diwrnod o rybudd cyn tynnu’r mesurau dros dro hyn yn ôl.
Os ydych eisoes yn cynhyrchu hylif diheintio dwylo
Os ydych wedi’ch awdurdodi i ddefnyddio gwirod di-doll er mwyn cynhyrchu hylif diheintio dwylo ar gyfer ysbytai
Fe’ch awdurdodir yn awtomatig i gynhyrchu diheintydd ar gyfer cartrefi gofal.
Dileu terfynau ar alcohol wedi’i annatureiddio a gwirod di-doll a ddefnyddir wrth gynhyrchu hylif diheintio dwylo
Nid oes angen i chi wneud cais i gynyddu eich terfyn defnydd blynyddol os ydych eisoes wedi’ch awdurdodi i ddefnyddio alcohol diwydiannol wedi’i annatureiddio, alcohol wedi’i annatureiddio sy’n benodol i fasnach 1 neu wirod di-doll i gynhyrchu hylif diheintio dwylo at ddefnydd manwerthu neu ysbyty.
Os ydych wedi’ch awdurdodi i ddefnyddio alcohol wedi’i annatureiddio 6 neu 7 sy’n benodol i fasnach (TSDA 6 neu 7)
Gallwch gynhyrchu hylif diheintio dwylo os ydych eisoes wedi’ch awdurdodi i ddefnyddio alcohol wedi’i annatureiddio 6 neu 7 sy’n benodol i fasnach.
Os ydych yn dymuno cynhyrchu hylif diheintio dwylo
Os ydych yn dymuno cynhyrchu neu ddefnyddio alcohol wedi’i annatureiddio neu wirod di-doll er mwyn gwneud hylif diheintio dwylo, gallwch ddefnyddio’r canlynol:
- alcohol diwydiannol wedi’i annatureiddio
- alcohol wedi’i annatureiddio 1, 6 neu 7 sy’n benodol i fasnach
- gwirod di-doll � ond dim ond os yw’r hylif diheintio dwylo wedi’i gynhyrchu er mwyn cyflenwi ysbytai a chartrefi gofal
Dylech wneud cais i CThEM yn y ffordd arferol, oni bai eich bod yn ddistyllwr trwyddedig neu’n gynhyrchwr gin.
Distyllwr trwyddedig neu gynhyrchwr gin
Os oes gennych ethanol y gohiriwyd tollau arno mewn warws ecséis, gallwch annatureiddio’r ethanol drwy naill ai:
- cynhyrchu hylif diheintio dwylo sy’n bodloni fformwleiddiadau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar gyfer diheintyddion dwylo (handrub)
- bodloni fformwleiddiadau alcohol diwydiannol wedi’i annatureiddio, neu alcohol wedi’i annatureiddio 1, 6 neu 7 sy’n benodol i fasnach
Nid oes angen i chi roi gwybod i CThEM na chael cymeradwyaeth, ond mae’n rhaid i chi gadw cofnod o’r canlynol:
- faint o ethanol sydd wedi’i annatureiddio
- y dull a ddefnyddiwyd
Os ydych yn cyflenwi alcohol wedi’i annatureiddio sy’n benodol i fasnach neu wirod di-doll
Os ydych yn gyflenwr trwyddedig o alcohol wedi’i annatureiddio sy’n benodol i fasnach neu wirod di-doll, ac rydych yn ei gyflenwi ar gyfer gwneud hylif diheintio dwylo, nid oes angen i chi gyfyngu’r cyfaint a gyflenwir. Ond dylech barhau i wneud y canlynol:
- archwilio awdurdodiadau
-
cofnodi manylion y cyflenwadau a wnaed
Updates to this page
-
From 1 April 2022, temporary measures to help businesses who produce hand sanitiser and gel will be changing.
-
Added translation
-
Information has been updated about requirements that must be followed if using the temporary measures to make hand sanitiser products.
-
Information for contacting HMRC to ask an update about the progress of an application to use duty-free spirits and denatured alcohol for hand sanitiser has been added.
-
A Welsh translation has been added.
-
Information has been updated about requirements that must be followed to make sure sanitiser products are safe to use.
-
If you produce hand sanitiser products, you must ensure it is safe to use and that all other regulatory requirements have been met, before supplying it to the public.
-
First published.