Aros a pharcio (238 i 252)
Rheolau ar gyfer aros a pharcio, gan gynnwys rheolau am barcio yn y nos a gorfodaeth parcio cyfreithlon.
Rheol 238
²Ñ²¹±ð‵µ RHAID I CHI BEIDIO ag aros na pharcio ar linellau melyn yn ystod y cyfnod gweithredu a ddangosir ar blatiau amser gerllaw (neu arwydd mynediad parth os mewn Parth Parcio a Reolir) â€� gweler ‘Arwyddion traffigâ€� a ‘Marciau ffyrddâ€�. Mae llinellau melyn dwbl yn nodi gwahardd aros ar unrhyw adeg hyd yn oed os nad oes arwyddion unionsyth. ²Ñ²¹±ð‵µ RHAID I CHI BEIDIO ag aros neu barcio, na stopio i ollwng a chasglu teithwyr, ar farciau mynediad i’r ysgol (gweler ‘Marciau fyrddâ€�) pan fydd arwyddion unionsyth yn dangos gwaharddiad stopio.
Y ddeddf a
Rheol 239
Defnyddiwch fannau parcio oddi ar y stryd, neu gilfachau wedi’u marcio â llinellau gwyn ar y ffordd fel mannau parcio, lle bynnag y bo modd. Os bydd rhaid i chi stopio ar ochr y ffordd:
-
peidiwch â pharcio yn wynebu’r llif traffig
-
stopiwch mor agos ag y gallwch at yr ochr
-
peidiwch â stopio’n rhy agos at gerbyd sy’n arddangos Bathodyn Glas: cofiwch, efallai y bydd angen mwy o le ar y meddiannydd i fynd i mewn neu allan o’r cerbyd
-
³¾²¹±ð‵µ RHAID i chi ddiffodd y peiriant, prif oleuadau a goleuadau niwl
-
³¾²¹±ð‵µ RHAID i chi ddefnyddio’r brêc llaw cyn gadael y cerbyd
-
³¾²¹±ð‵µ RHAID i chi sicrhau nad ydych yn taro neb pan fyddwch yn agor eich drws. Gwyliwch am feicwyr neu draffig arall
-
lle rydych yn gallu gwneud hynny, dylech agor y drws gan ddefnyddio’ch llaw ar yr ochr gyferbyn â’r drws rydych yn ei agor, er enghraifft, defnyddiwch eich llaw chwith i agor drws ar eich ochr dde. Bydd hyn yn gwneud i chi droi eich pen dros eich ysgwydd. Rydych wedyn yn fwy tebygol o osgoi achosi anaf i seiclwyr neu feicwyr modur sy’n mynd heibio i chi ar y ffordd, neu i bobl ar y palmant
-
³¾²¹±ð‵µ fwy diogel i’ch teithwyr (yn enwedig plant) fynd allan o’r cerbyd ar yr ochr wrth ymyl y cwrb
-
rhowch yr holl bethau gwerthfawr o’r golwg a gwnewch yn siŵr fod eich cerbyd yn ddiogel
-
clowch eich cerbyd.
Cyn defnyddio dyfais llaw i’ch helpu i barcio, ³¾²¹±ð‵µ RHAID i chi wneud yn siŵr ei bod yn ddiogel gwneud hynny. Yna, dylech symud y cerbyd i mewn i’r lle parcio yn y ffordd fwyaf diogel, ac yn ôl y llwybr byrraf posibl.
Pan fyddwch yn defnyddio dyfais llaw i’ch helpu i barcio, ³¾²¹±ð‵µ RHAID i chi reoli’r cerbyd bob amser. Peidiwch â defnyddio’r ddyfais llaw ar gyfer unrhyw beth arall pan fyddwch yn ei ddefnyddio i’ch helpu i barcio, a pheidiwch â rhoi unrhyw un mewn perygl. Defnyddiwch y ddyfais llaw yn ôl cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.
Wrth ddefnyddio man gwefru cerbyd trydan, dylech barcio’n agos at y man gwefru ac osgoi creu perygl baglu i gerddwyr o geblau sydd yn eu ffordd. Arddangoswch arwydd rhybudd os gallwch chi. Ar ôl defnyddio’r man gwefru, dylech ddychwelyd ceblau a chysylltwyr gwefru yn daclus i leihau’r perygl i gerddwyr ac osgoi creu rhwystr i ddefnyddwyr eraill y ffordd.
Deddfau , , a , a
Rheol 240
²Ñ²¹±ð‵µ RHAID I CHI BEIDIO â stopio na pharcio ar:
-
y gerbydffordd, ardal argyfwng neu lain galed traffordd ac eithrio mewn argyfwng (gweler Rheolau 270 a 271)
-
croesfan i gerddwyr, gan gynnwys yr ardal sydd wedi’i marcio gan y llinellau igam-ogam (gweler Rheol 191)
-
clirffordd (gweler ‘Arwyddion traffig�)
-
cilfachau tacsis fel y dangosir gan arwyddion unionsyth a marciau
-
Clirffordd Drefol o fewn ei oriau gweithredu, ac eithrio i gasglu teithwyr neu eu gollwng (gweler ‘Arwyddion traffig�
-
ffordd wedi’i marcio â llinellau gwyn dwbl, hyd yn oed pan fydd llinell wen wedi’i thorri ar eich ochr chi o’r ffordd, ac eithrio i gasglu teithwyr neu eu gollwng, neu i lwytho neu ddadlwytho nwyddau
-
lôn dramiau neu feiciau yn ystod ei gyfnod gweithredu
-
llwybr beicio
-
llinellau coch, yn achos ‘llwybrau coch� penodol, oni nodir fel arall gan arwyddion. Caiff unrhyw gerbyd fynd i mewn i lôn fysiau i stopio, llwytho neu ddadlwytho lle nad yw hyn yn waharddedig (gweler Rheol 141).
Deddfau a fel y’u diwygiwyd gan , a , , a , , ,
Rheol 241
²Ñ²¹±ð‵µ RHAID I CHI BEIDIO â pharcio mewn mannau parcio a gedwir ar gyfer defnyddwyr penodol, megis deiliaid Bathodyn Glas, trigolion neu feiciau modur, oni bai bod hawl gennych i wneud hynny.
Cyfreithiau a a
Rheol 242
²Ñ²¹±ð‵µ RHAID I CHI BEIDIO â gadael eich cerbyd neu’ch trelar mewn lle peryglus neu lle ³¾²¹±ð‵µ achosi unrhyw rwystr diangen i’r ffordd.
Deddfau a
Rheol 243
PEIDIWCH â stopio na pharcio:
-
ger mynedfa ysgol
-
unrhyw le y byddech yn atal mynediad i Wasanaethau Brys
-
ar neu’n agos at safle bws neu dram neu safle tacsis
-
ar y ffordd ddynesu at groesfan gwastad/tramffordd
-
gyferbyn neu o fewn 10 metr (32 troedfedd) o gyffordd, ac eithrio mewn man parcio awdurdodedig
-
ger ael bryn neu bont groca
-
gyferbyn ag ynys draffig neu (pe byddai hyn yn achosi rhwystr) gerbyd arall wedi’i barcio
-
lle byddech yn gorfodi traffig arall i fynd i mewn i lôn tram
-
lle mae’r cwrbyn wedi’i ostwng i helpu defnyddwyr cadeiriau olwyn a cherbydau symudedd modur
-
o flaen mynedfa tÅ·
-
ar droad
-
lle byddech yn rhwystro beicwyr rhag defnyddio cyfleusterau beicio
ac eithrio pan orfodir i wneud hynny oherwydd traffig llonydd.
Yn yr Alban RHAID I CHI BEIDIO â dwbl parcio na pharcio yn unrhyw le y mae’r cwrbyn wedi’i ostwng i helpu cerddwyr neu feicwyr. Caniateir eithriadau mewn amgylchiadau cyfyngedig.
Y ddeddf
Rheol 244
RHAID I CHI BEIDIO â pharcio’n rhannol neu’n gyfan gwbl ar y palmant yn Llundain neu’r Alban. Caniateir eithriadau mewn amgylchiadau cyfyngedig. Ni ddylech barcio’n rhannol neu’n gyfan gwbl ar y palmant yn rhywle arall heblaw bod arwyddion yn caniatáu hynny. Gall parcio ar y palmant rwystro ac achosi anghyfleustra difrifol i gerddwyr, pobl mewn cadeiriau olwyn neu â nam ar eu golwg a phobl â phramiau neu gadeiriau gwthio.
Y ddeddf a
Rheol 245
Parthau parcio a reolir. Mae’r arwyddion mynediad i’r parth yn dangos yr adegau y mae’r cyfyngiadau aros o fewn y parth mewn grym. Efallai y caniateir parcio mewn rhai mannau ar adegau eraill. Fel arall, bydd parcio o fewn cilfachau sydd wedi’u harwyddo a’u marcio ar wahân.
Rheol 246
Cerbydau nwyddau. ²Ñ²¹±ð‵µ RHAID i gerbydau sydd â’u pwysau llwythog o dros 7.5 o dunelli (gan gynnwys unrhyw drelar) BEIDIO â chael eu parcio ar lain ymyl, palmant neu unrhyw dir rhwng cerbydffyrdd, heb ganiatâd yr heddlu. Yr unig eithriad yw pan fo parcio’n hanfodol ar gyfer llwytho a dadlwytho, ac os felly ³¾²¹±ð‵µ RHAID I’R CERBYD BEIDIO â chael ei adael heb neb i ofalu amdano.
Y ddeddf
Rheol 247
Llwytho a dadlwytho. Peidiwch â llwytho na dadlwytho lle mae marciau melyn ar y palmant ac arwyddion unionsyth yn cynghori bod cyfyngiadau mewn grym (gweler ‘Marciau ffyrdd �). Gellir caniatáu hyn lle bo parcio’n gyfyngedig fel arall. Ar lwybrau coch, mae cilfachau penodol ag arwyddion a marciau yn dangos ble a phryd y caniateir llwytho a dadlwytho.
Y ddeddf a
Rheol 248
²Ñ²¹±ð‵µ RHAID I CHI BEIDIO â pharcio ar ffordd yn y nos sy’n wynebu cyfeiriad llif y traffig oni bai ei fod mewn lle parcio cydnabyddedig.
Deddfau a
Rheol 249
²Ñ²¹±ð‵µ RHAID i bob cerbyd arddangos goleuadau parcio pan fyddant wedi’u parcio ar ffordd neu gilfan ar ffordd sydd â therfyn cyflymder yn fwy na 30 mya (48 km/ya).
Y ddeddf
Rheol 250
Caniateir parcio ceir, cerbydau nwyddau nad ydynt yn fwy na 2500 kg o bwysau llawn, cerbydau annilys, beiciau modur a beiciau heb oleuadau ar ffordd (neu gilfan) â therfyn cyflymder o 30 mya (48 km/ya) neu lai os byddant:
-
o leiaf 10 metr (32 troedfedd) i ffwrdd o unrhyw gyffordd, yn agos at y palmant ac yn wynebu yng nghyfeiriad llif y traffig
-
mewn lle parcio cydnabyddedig neu gilfan.
²Ñ²¹±ð‵µ RHAID i gerbydau a threlars eraill, a phob cerbyd â llwythi sy’n gorhongian, BEIDIO â chael eu gadael ar ffordd yn y nos heb oleuadau ymlaen.
Deddfau a
Rheol 251
Parcio mewn niwl. ²Ñ²¹±ð‵µ beryglus iawn i barcio ar y ffordd mewn niwl. Os nad oes modd osgoi hyn, gadewch eich goleuadau parcio neu oleuadau ystlys ymlaen.
Rheol 252
Parcio ar fryniau. Os byddwch yn parcio ar fryn, dylech:
-
barcio yn agos at y cwrbyn a rhoi’r brêc llaw ymlaen yn gadarn
-
dewis gêr ymlaen a throi eich olwyn lywio i ffwrdd o’r cwrbyn wrth wynebu ar i fyny
-
dewis gêr bacio a throi eich olwyn lywio tuag at y cwrbyn wrth wynebu ar i lawr
-
defnyddio gêr ‘parcio� os oes gan eich car focs gêr awtomatig.
Mae DPE yn dod yn fwyfwy cyffredin wrth i ragor o awdurdodau ymgymryd â’r rôl hon. Mae’r awdurdod traffig lleol yn cymryd cyfrifoldeb am orfodi llawer o droseddau parcio yn lle’r heddlu. Ceir manylion ychwanegol am DPE ar y gwefannau canlynol:
(tu allan i Lundain)
(tu mewn i Lundain)