Taenlen atodlen ar gyfer hawlio treth nôl ar gyfraniadau Rhodd Cymorth
Cyflwyno cyfraniadau Rhodd Cymorth unigol, cyfraniadau cyfansymiol a cheisiadau am ddigwyddiadau sydd wedi'u noddi gan ddefnyddio Elusennau Ar-lein.
Beth i’w gynnwys
Mae’n rhaid bod gennych ddatganiadau Rhodd Cymorth (yn Saesneg) dilys ar gyfer yr holl gyfraniadau yr ydych yn eu cofnodi yn y daenlen atodlen, y dylech eu cadw ar gyfer eich cofnodion.
Bydd angen i chi nodi’r canlynol ar gyfer bob cyfrannwr unigol:
- teitl, gan ddefnyddio uchafswm o 4 cymeriad ar bob llinell
- enw cyntaf (neu flaenlythyren gyntaf) ac enw olaf, gan ddefnyddio uchafswm o 35 cymeriad ar bob llinell
- enw neu rif y tŷ
- cod post, gan ddefnyddio prif lythrennau a chynnwys bwlch, er enghraifft, S19 2BD
- cyfraniadau cyfansymiol os yn gymwys
- digwyddiadau wedi’u noddi
- dyddiad y cyfraniad, gan ddefnyddio’r fformat DD/MM/BB neu nodwch y dyddiad diweddaraf mewn cyfres o gyfraniadau a wnaed gan y cyfrannwr
- swm y cyfraniad, heb ddefnyddio’r arwyddion £ a gan ddangos symiau i 2 pwynt degol e.e. 200.00 nid £200
Os oes blwch yn y daenlen nad yw’n berthnasol i chi, gadewch ef yn wag.
Ar gyfer cyfraniad unigol, mae’n rhaid i chi gynnwys y dyddiad pan dderbyniwyd y cyfraniad. Ond os yw cyfrannwr unigol yn gwneud cyfraniadau rheolaidd i’ch elusen neu CChAC, neu os ydych yn cyflwyno cyfraniadau cyfansymiol, nodwch ddyddiad y cyfraniad diwethaf a dderbyniwyd.
Gallwch hefyd nodi’r cyfanswm ar gyfer y cyfrannwr dros y cyfnod rydych yn hawlio ar ei gyfer. Mae’n bosib y bydd angen i chi ddangos dyddiad gwahanol os yw’r cyfraniadau hyn yn cwmpasu mwy nag un cyfnod cyfrifyddu.
Bydd angen i chi ddod o hyd i’r cod post ar gyfer cyfeiriadau yn y DU, naill ai gan y cyfrannwr neu drwy ddefnyddio canfyddwr codau post ar-lein rhad ac am ddim y Post Brenhinol, a’u nodi yn eich cofnodion.
Os yw cyfenw’r cyfrannwr yn un dwbl baril, defnyddiwch fwlch yn lle’r cysylltnod e.e. nodwch Smith Davis nid Smith-Davis.
Cyfraniadau cyfansymiol
Gallwch ‘gronni� (ychwanegu at ei gilydd) cyfraniadau o £20 neu lai gan gyfranwyr gwahanol a’u dangos fel un cofnod ar y daenlen. Ni all cyfanswm y cyfraniad ar un llinell fod yn fwy na £1,000 ac ni all y cyfanswm gynnwys cyfraniadau sy’n gysylltiedig â mynediad i atynfeydd elusennol ar gyfer ymwelwyr.
I hawlio Rhodd Cymorth ar gyfraniadau cyfansymiol, peidiwch â nodi enw a chyfeiriad cyfranwyr unigol, gan fydd hyn yn arafu eich cais am ad-daliad. Dylech, yn hytrach, nodi’r canlynol:
- disgrifiad syml megis ‘Cyfranwyr clwb dydd Iau� yn y blwch ‘cyfraniadau cyfansymiol� (uchafswm o 35 cymeriad)
- dyddiad y cyfraniad diwethaf
- y cyfanswm a godwyd
Dylech ond adio at ei gilydd cyfraniadau a wnaed yn ystod yr un cyfnod cyfrifyddu. Daw eich cyfnod cyfrifyddu i ben ar y dyddiad pan fyddwch yn paratoi eich cyfrifon, heblaw bod eich sefydliad wedi ei sefydlu drwy weithred ymddiriedolaeth neu ewyllys, neu y cafodd ei sefydlu y tu allan i’r DU. Yn yr achosion hynny, mae eich cyfnod cyfrifyddu’n rhedeg i’r 5ed o Ebrill.
Digwyddiadau wedi’u noddi
Bydd angen i chi nodi’r canlynol:
- ‘iawn� yn y blwch ar gyfer digwyddiadau sydd wedi’u noddi
- y dyddiad y derbyniwyd y taliadau nawdd gan yr elusen
- cyfanswm y cyfraniadau Rhodd Cymorth a godwyd gan y cyfranogwr
Os ydych yn hawlio Rhodd Cymorth ar gyfraniadau o ddigwyddiad wedi’i noddi, nid oes angen i chi gynnwys manylion cyfranwyr unigol, heblaw bod unigolyn yn rhoi mwy na £500.
Dangoswch gyfraniadau unigol dros £500 fel cyfraniad Rhodd Cymorth ar wahân, ynghyd ag enw a chyfeiriad y cyfrannwr. Peidiwch â nodi ‘iawn� yn y blwch digwyddiad wedi’i noddi yn erbyn cyfraniadau unigol.
Os ydych yn ychwanegu at ei gilydd cyfraniadau sy’n llai na £500 o ddigwyddiadau wedi’u noddi, nodwch enw, cyfeiriad a chod post pob cyfranogwr yn y digwyddiad.
Gall y cyfeiriad fod yn gyfeiriad cartref neu gyfeiriad gwaith y cyfranogwr, neu’n gyfeiriad ysgol os oes gan y cyfranogwyr blentyn sydd wedi cymryd rhan mewn digwyddiad a drefnwyd gan ysgol.
Cyfraniadau rheolaidd
Gellir dangos cyfraniadau rheolaidd gan un person ar un llinell. Gallwch eu hadio i gyd at ei gilydd ac ychwanegu dyddiad y cyfraniad diweddaraf yn unig. Serch hynny, dylech ond adio cyfraniadau at ei gilydd a wnaed yn ystod yr un cyfnod cyfrifyddu.
Daw eich cyfnod cyfrifyddu i ben ar y dyddiad pan fyddwch yn paratoi eich cyfrifon, heblaw bod eich sefydliad wedi ei sefydlu drwy weithred ymddiriedolaeth neu ewyllys, neu y cafodd ei sefydlu y tu allan i’r DU. Yn yr achosion hynny, mae eich cyfnod cyfrifyddu’n rhedeg i’r 5ed o Ebrill.
Er enghraifft, os caiff taliadau misol o £10 eu gwneud gan yr un person o 10 Gorffennaf 2013 i 10 Mehefin 2016, ac mai 30 Mehefin yw eich cyfnod cyfrifyddu.
Taliad misol | Dyddiad diweddaraf | Yn syrthio yn y cyfnod cyfrifyddu hyd at |
---|---|---|
£120 | 10/06/14 | 30/06/14 |
£90 | 10/03/15 | 30/06/15 |
£30 | 10/06/15 | 30/06/15 |
£120 | 10/06/16 | 30/06/16 |
Symiau a or-hawliwyd
Defnyddiwch y daenlen atodlen i ddweud wrth CThEM am wall a olygodd y cawsoch eich gordalu y tro diwethaf y gwnaethoch gais.
Mae’n rhaid i chi nodi swm y dreth a or-hawliwyd, nid gwerth y cyfraniad, yn y blwch cywir. Caiff y swm hwn ei ddidynnu wedyn o’r cais rydych yn ei gyflwyno.
Os yw’r swm a ordalwyd yn fwy na’r cais am ad-daliad yr ydych yn ei wneud, bydd yn rhaid i chi wneud taliad ychwanegol i CThEM.
Terfyn ar bob taenlen
Mae gan y daenlen atodlen uchafswm o 1,000 o linellau, felly gallwch dim ond gwneud cais am 1,000 o gyfraniadau ar un daenlen ar y tro. Os ewch dros yr uchafswm, ni chaiff y llinellau gormodol eu hatodi fel rhan o’ch cais.
Gallwch, fodd bynnag, gyflwyno cymaint o geisiadau ar-lein ag y dymunwch, e.e. os oes gennych 1,600 o gyfraniadau Rhodd Cymorth, gallwch gyflwyno dau gais gydag 800 o gyfraniadau ar bob cais. Rhaid eich bod wedi llenwi a chyflwyno un cais ar-lein cyn eich bod yn dechrau ail un.
Cael y meddalwedd cywir
Mae’r daenlen atodlen wedi ei hysgrifennu mewn fformat OpenDocument (ODF), fformat rhydd ar gyfer taenlenni, a ddefnyddir yn fyd-eang. Mae defnyddio ODF yn golygu bod y daenlen atodlen yn gallu cael ei hagor gydag amrywiaeth o raglenni meddalwedd.
Cyn y gallwch agor y daenlen atodlen, gwnewch yn siŵr fod gennych un o’r rhaglenni meddalwedd hyn wedi ei gosod ar eich cyfrifiadur:
- Microsoft Excel � Microsoft Office 2010 ar gyfer Microsoft Windows
- LibreOffice ar gyfer Microsoft Windows, Apple Mac OS a Linux
Os ydych yn defnyddio Microsoft Excel, mae’n rhaid i chi lawrlwytho’r daenlen gywir ar gyfer MS Excel. Sicrhewch fod eich cyfrifiadur yn defnyddio ‘English UK� fel iaith. Ewch i ‘File > Options > Languages� i weld.
Os ydych yn defnyddio LibreOffice, mae’n rhaid i chi lawrlwytho’r daenlen ar gyfer LibreOffice. Gallwch lawrlwytho LibreOffice yn rhad ac am ddim, ac mae’n cymryd ychydig o funudau’n unig. Lawrlwythwch y fersiwn ddiweddaraf o . Mae’n rhaid i chi lawrlwytho fersiwn ‘English (GB)�. Ewch i ‘Tools > Options > Languages� i weld.
Peidiwch â lawrlwytho’r fersiwn ar gyfer LibreOffice ac yna ceisio ei throsi i Microsoft Office neu Excel (neu fel arall). Os gwnewch hyn, efallai y cewch broblemau.
Efallai y bydd angen i’r rheiny sy’n defnyddio Mac osod ‘English (GB)�. Gwnewch hyn drwy fynd i a chlicio ar ‘LibreOffice in other languages�.
Mae’n bosibl y bydd rhaglenni ODF eraill yn eich caniatáu i agor y ffeiliau sy’n cynnwys y daenlen, ond efallai na fyddant yn eich caniatáu i atodi’ch taenlen i’ch cais ar-lein a bwrw golwg dros y cynnwys yn y gwasanaeth ‘Elusennau Ar-lein�.
Cadw a chyflwyno
Pan fod gennych y feddalwedd briodol i agor y taenlenni atodlen, cadwch y taenlenni ar eich cyfrifiadur. Gallwch eu defnyddio ar unwaith.
Mae gan bob taflen waith yn y daenlen atodlen tab ag enw ar yr ochr chwith yn y gwaelod. Enw’r tab yw: R68GAD_V1_00_0_CY (neu EN ar gyfer y fersiwn Saesneg) - Taenlen atodlen o gyfraniadau Rhodd Cymorth. Peidiwch â newid yr enw, neu ni fyddwch yn gallu atodi’r daenlen atodlen i’r ffurflen ar-lein yn Elusennau Ar-lein.
Mae gan daenlenni sydd wedi’u cadw yn y fformat OpenDocument yr ôl-ddodiad �.ods� ar ôl enw’r ffeil sy’n dangos ym mha fformat mae’r ddogfen wedi’i chadw. Er enghraifft, byddai ffeil o’r enw ‘Cais am Rodd Cymorth 2013� yn cael ei chadw fel ‘Cais am Rodd Cymorth 2013.ods�. Os newidiwch yr ôl-ddodiad, mae’n bosib y cewch anawsterau wrth geisio uwchlwytho’ch taenlen i Elusennau Ar-lein.
Lawrlwytho’r daenlen atodlen
Cyn i chi lawrlwytho’r taenlenni atodlen, mae’n bwysig eich bod yn lawrlwytho ac yn defnyddio’r fersiwn addas o’r daenlen atodlen ar gyfer eich meddalwedd.
Os ydych yn defnyddio Microsoft Excel, rhaid i chi lawrlwytho’r daenlen atodlen gywir ar gyfer MS Excel. Os ydych yn defnyddio LibreOffice, rhaid i chi lawrlwytho’r daenlen atodlen LibreOffice.
Peidiwch â lawrlwytho’r fersiwn LibreOffice o’r daenlen atodlen ac yna ceisio ei drosi i Microsoft Office neu Excel (neu fel arall).
Lawrlwythwch y daenlen atodlen Rhodd Cymorth ar gyfer
Negeseuon gwall
Os cewch neges gwall sy’n dechrau gydag ‘ASM�, sicrhewch nad ydych wedi ei chopïo a’i phastio i mewn i’r daenlen, a’ch bod wedi cadw’r ffeil fel taenlen ODF.
Os cewch fath arall o neges gwall, sicrhewch nad ydych wedi teipio unrhyw fylchau gwag yn eich taenlen cyn neu ar ôl gwybodaeth am gyfrannwr.
Updates to this page
-
ʹapp previous update to the 'What to include' section was made in error. This information has now been removed.
-
ʹapp 'What to include' section has been updated to include a reminder that Gift Aid declarations require the donor's full name.
-
ʹapp amount for aggregated donations has been changed from £30 to £20.
-
Aggregated donations have been changed from £20 to £30.
-
First published.