Safonau i asiantiaid Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA)
Lansio safonau newydd ar gyfer asiantiaid gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Mae gennym safonau i asiantiaid sy’n nodi:
- disgwyliadau’r VOA o gynrychiolwyr proffesiynol (asiantiaid) sy’n rhyngweithio â’r VOA a’i gwasanaethau
- trosolwg o sut y bydd y VOA yn delio â’r lleiafrif o asiantiaid nad ydynt yn bodloni’r safonau
Ar gyfer pwy mae’r safonau
Mae’r term ‘asiant� yn berthnasol i’r rheini sy’n cynrychioli, yn broffesiynol, dalwyr ardrethi neu drethdalwyr wrth ryngweithio â’r VOA. Mae hyn yn cynnwys ardrethi busnes (ardrethi annomestig) a Threth Gyngor.
Gall asiantiaid fod yn unigolion, yn bartneriaethau, yn gwmnïau corfforedig neu unrhyw fath o endid cyfreithiol sy’n darparu cyngor neu wasanaethau ynghylch ardrethi neu dreth.
Nid yw’r VOA yn defnyddio’r safonau hyn gyda chynorthwywyr dibynadwy.
Defnyddio asiant
Dylai cwsmeriaid bob amser wirio cefndir a statws proffesiynol cwmni neu unigolyn cyn llofnodi contract.
Mae’r VOA yn rhoi arweiniad ar benodi asiant ar gyfer ardrethi busnes.
Y safonau
Dylai pob asiant gynnal safonau uchel sy’n hyrwyddo cydymffurfiad.
Mae’r safonau isod yn nodi disgwyliadau clir ar gyfer asiantiaid o ran:
- eu hymddygiad
- eu harfer proffesiynol
- y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu i’w cwsmeriaid.
1. Ymddygiad
Mae’n rhaid i’r asiantiaid fodloni’r safonau ymddygiad canlynol.
Hygrededd a gonestrwydd
Bod yn onest ac yn ddidwyll.
Bod yn agored
Bod yn agored ac yn gydweithredol wrth rannu gwybodaeth neu mewn trafodaethau, gan gadw mewn cof budd y cyhoedd.
-Parch
Trin eraill gyda chwrteisi ac urddas.
Cynrychiolaeth
Sicrhau nad yw deunyddiau a chyfathrebiadau yn camgyfleu’r berthynas ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio na rôl neu weithgareddau’r VOA.
2. Arfer proffesiynol
Mae’n rhaid i’r asiantiaid fodloni’r safonau arfer proffesiynol canlynol:
Dibynadwyedd
Sicrhau bod ymrwymiadau a chyfrifoldebau yn cael eu cyflawni’n gyson.
Cywirdeb
Cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth yn gywir a, lle bo angen, wedi’i hategu gan dystiolaeth sy’n ffeithiol, yn gyflawn ac yn wrthrychol.
Cymhwysedd a’r gofal priodol
Cymryd pob cam rhesymol i atal gwallau ac anghywirdebau � eu cywiro cyn gynted ag yr amlygwyd.
Gwybodaeth
Cynnal gwybodaeth gywir a chyfredol o’r meysydd ymarfer ardrethu a phrisio y maent yn ymdrin â hwy.
Cydymffurfio
Cydymffurfio’n llawn â’r holl ddeddfwriaethau a rheoliadau perthnasol sy’n ymwneud â gweithgaredd proffesiynol.
3. Gwasanaeth
Dylai asiantiaid fodloni’r safonau gwasanaeth canlynol.
Cyfathrebu
Darparu cyfathrebiadau clir.
Amseroldeb
Ymateb i gyswllt o fewn amser rhesymol.
Agosatrwydd
Bod ar gael ac mewn modd agos-atoch.
Cynghori
Defnyddio arbenigedd a phrofiad i roi cyngor priodol a chywir.
Sut mae’r VOA yn monitro’r safonau
Mae’r VOA yn casglu tystiolaeth o ymddygiad ac arferion gwael asiantiaid yn ystod eu gwaith. Mae’r dystiolaeth hon yn ein galluogi i fynd i’r afael yn rhagweithiol â materion neu bryderon.
Mae’r safonau asiant yn nodi’r hyn rydym yn ei ddisgwyl gan asiantiaid. Mae’r safonau’n gosod meincnod lle y bydd y VOA yn ystyried cymryd camau yn erbyn yr asiant oddi tano.
Pan nad yw’r safonau’n cael eu bodloni
Mae’r rhan fwyaf o asiantiaid yn rhyngweithio â’r VOA yn broffesiynol ac yn barchus, ac yn cynnal safonau uchel. I’r lleiafrif nad ydynt yn gwneud hynny, gall y VOA gymryd camau i fynd i’r afael ag ymddygiadau ac arferion .
Ystyrir bod yr asiantiaid hynny, sydd ddim yn dilyn y safonau, yn torri’r safonau.
Yn y rhan fwyaf o achosion o ymddygiad neu arfer gwael asiant, bydd y VOA yn ceisio gweithio gyda’r asiant i ddatrys unrhyw anawsterau neu faterion yn gyntaf.
Os na fydd yr asiant yn ymateb i’r VOA, neu os yw’r mater yn ddifrifol, bydd y VOA yn ceisio cymryd camau cryfach.
Gallai’r opsiynau gynnwys:
- rhwystro mynediad i wasanaethau’r VOA dros dro
- atgyfeiriadau at bartneriaid priodol (er enghraifft, Gwasanaeth Ymchwilio i Dwyll CThEF neu’r )
- gwrthod delio ag asiant o gwbl
Pan fo’n briodol, bydd cyrff proffesiynol perthnasol yn cael eu hysbysu’n uniongyrchol am gamymddwyn gan eu haelodau trwy Ddatgeliad er Lles y Cyhoedd.
Y VOA a safonau cyrff proffesiynol
Mae llawer o asiantiaid yn aelodau o gorff proffesiynol, a all osod y safonau a ddisgwylir gan eu haelodau. Mae’r cyrff proffesiynol hyn yn cynnwys:
- Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS)
- Y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw (IRRV)
- Cymdeithas y Syrfewyr Ardrethu (RSA)
Mae RICS, IRRV ac RSA sy’n disgrifio’r hyn y gall eu haelodau ei wneud a’r hyn na allant ei wneud. Mae’n rhaid i aelodau’r sefydliadau uchod ddilyn y safonau hyn.
Nid yw safonau asiant y VOA yn diystyru unrhyw ddyletswyddau neu safonau proffesiynol a osodir gan gorff proffesiynol perthnasol. Disgwylir i aelodau corff proffesiynol ddilyn unrhyw ofynion a osodir gan eu sefydliad.
Disgwyliwn i bob asiant sy’n rhyngweithio â’r VOA gadw at ein safonau, ni waeth beth fo’u haelodaeth o gyrff proffesiynol.
Os yw asiantiaid yn bodloni safonau eu corff proffesiynol, ni ddylai safonau asiantiaid y VOA osod unrhyw ofynion pellach arnynt.
Rhoi gwybod am amheuaeth o dorri safonauÂ
Os ydych yn dyst i ymddygiad gwael gan asiant, rhowch wybod i’r VOA drwy e-bostio [email protected].Ìý
Anfonwch unrhyw dystiolaeth sydd gennych, megis:Â
- ±ð-²ú´Ç²õ³ÙÌý
- deunyddiau marchnataÂ
- dolen gwefanÂ
- delwedd o wefan neu neges-destunÂ
Bydd o gymorth i ni os oes gennych y dyddiad a’r amser y gwnaethoch nodi’r ymddygiad gwael.Ìý
Os digwyddodd y digwyddiad dros y ffôn, rhowch wybod i ni:Â
- dyddiad ac amser yr alwadÂ
- pwy gysylltodd â chiÂ
- cynnwys y sgwrs, gan gynnwys unrhyw ddatganiadau a allai fod yn gamarweiniolÂ
Byddwn yn ymchwilio pan gawn dystiolaeth o achos posibl o asiant yn tramgwyddo ein safonau. Oherwydd y ddeddfwriaeth y mae’r VOA yn gweithio oddi tano, ni allwn ddatgelu unrhyw wybodaeth am ymchwiliadau y gallem eu cynnal. Ni allwn chwaith ddweud a ydym wedi gweithredu o dan ein safonau asiantau.Ìý
Bydd dweud wrthym am achosion posibl o dorri ein safonau yn ein helpu i weithredu ar sgamiau a diogelu cwsmeriaid. Byddwn bob amser yn gweithredu pan fyddwn yn medru cadarnhau achos o dorri’r safonau.
Beth y gall asiantiaid ei ddisgwyl o’r VOA
Os yw cwsmer wedi awdurdodi asiant i ddelio â ni ar ei ran, byddwn yn delio â’r asiant hwnnw yn gwrtais ac yn broffesiynol.
Rydym am ddarparu gwasanaeth i asiantiaid sydd:
- yn deg
- yn gywir
- ar sail ymddiriedaeth a pharch gan y ddwy ochr
Rydym hefyd yn awyddus i’w gwneud hi mor hawdd â phosibl i asiantiaid gael pethau’n iawn.
Mae Siarter y cwsmer yn gosod yr ymddygiad a’r gwerthoedd y gall asiantiaid a chwsmeriaid eu disgwyl wrth ryngweithio a’r VOA.