Gwaharddiadau gyrru
Printable version
1. Trosolwg
Gallwch gael eich gwahardd rhag gyrru os ydych naill ai:
-
yn euog o drosedd gyrru
-
yn cael 12 neu fwy o bwyntiau cosb (ardystiadau) o fewn 3 blyneddÌý
Byddwch yn cael gwŷs yn y post sy’n dweud wrthych pryd y mae’n rhaid ichi fynd i’r llys.
Mae rhai rheolau gwahardd yn wahanol yng .
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)
Pa mor hir y bydd gwaharddiad gyrru yn parhau
Bydd y llys yn penderfynu pa mor hir y bydd y gwaharddiad yn parhau, yn seiliedig ar ba mor ddifrifol yw’r drosedd yn eu barn nhw.
Gallwch gael eich gwahardd rhag gyrru os oes gennych eisoes 12 pwynt cosb neu fwy ar eich trwydded. Gall eich gwaharddiad barhau am:
-
6 mis, os byddwch yn cael 12 pwynt cosb neu fwy o fewn 3 blynedd
-
12 mis, os byddwch yn cael ail waharddiad o fewn 3 blynedd
-
2 flynedd, os byddwch yn cael trydydd gwaharddiad o fewn 3 blynedd
Wedi’ch gwahardd am 56 diwrnod neu fwy
Os ydych wedi’ch gwahardd am 56 diwrnod neu fwy mae’n rhaid ichi wneud cais am drwydded newydd cyn gyrru eto.
Efallai y bydd rhaid ichi hefyd ailsefyll eich prawf gyrru neu sefyll prawf gyrru estynedig cyn cael eich trwydded lawn. Bydd y llys yn dweud wrthych os oes rhaid ichi wneud hyn.
Wedi’ch gwahardd am lai na 56 diwrnod
Gweld eich cofnod trwydded yrru ar-lein i wirio’r gwaharddiad. Ni allwch yrru nes iddo ddod i ben.
Nid oes angen ichi wneud cais am drwydded newydd cyn y gallwch yrru eto.
Gwaharddiad y tu allan i Brydain Fawr
Ni allwch yrru yng Ngogledd Iwerddon ac Ynys Manaw os ydych wedi cael eich gwahardd rhag gyrru ar eich trwydded yrru Prydain Fawr.
Gelwir hyn yn ‘cyd-gydnabyddiaeth o waharddâ€�. Mae gyrwyr sydd wedi’u gwahardd o Ogledd Iwerddon ac Ynys Manaw hefyd wedi’u gwahardd rhag gyrru ym Mhrydain Fawr.ÌýÌý
2. Gwirio pryd fydd eich gwaharddiad yn dod i ben
Gallwch ddod o hyd i’r dyddiad y daw eich gwaharddiad gyrru i ben:
-
ar y ffurflen atgoffa D27W y bydd DVLA yn ei hanfon atoch 56 diwrnod cyn i’ch gwaharddiad ddod i ben
-
ar y llythyr D27PHW a gyhoeddwyd 90 diwrnod cyn i rai gwaharddiadau sy’n ymwneud ag alcohol ddod i ben
-
drwy gysylltu â DVLA (os ydych yng Ngogledd Iwerddon, )
3. Gwneud cais i leihau cyfnod eich gwaharddiad
Gallwch ofyn i’r llys leihau cyfnod eich gwaharddiad ar ôl ichi gael eich gwahardd rhag gyrru am:
-
2 flynedd - os oedd y gwaharddiad am lai na 4 blynedd
-
hanner cyfnod yr gwaharddiad - os oedd am o leiaf 4 ond o dan 10 mlynedd
-
5 mlynedd - os oedd y gwaharddiad am 10 mlynedd neu fwy
Rhaid bod gennych reswm da dros ofyn am leihau’r gwaharddiad. Er enghraifft, os ydych yn credu bod y llys wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol neu fod rhesymau y gwnaethoch gyflawni’r drosedd gyrru nad oedd y llys wedi’u hystyried.Ìý
Ysgrifennwch i’r llys a’ch gwaharddodd gyda dyddiad y drosedd, dyddiad yr euogfarn ac unrhyw wybodaeth ategol arall.
Bydd y llys yn dweud wrth DVLA os bydd yn penderfynu lleihau cyfnod eich gwaharddiad. Os yw’n gwneud hynny, bydd angen ichi wneud cais am drwydded newydd.
Os bydd y llys yn gwrthod eich cais bydd rhaid ichi aros 3 mis cyn y gallwch ofyn eto.
Os caiff eich gwaharddiad ei leihau
Trwyddedau car neu feic modur
Gwnewch gais am drwydded newydd drwy anfon ffurflen D1W ‘Cais am drwydded yrruâ€� wedi’i chwblhau i DVLA, sydd ar gael o’r rhan fwyaf o . Rhaid ichi dalu ffi.ÌýÌý
Trwyddedau lori neu fws
Gwnewch gais am drwydded newydd drwy anfon ffurflen D2W ‘Cais am drwydded lori/bwsâ€� wedi’i chwblhau i DVLA, sydd ar gael gan y gwasanaeth archebu ffurflenni DVLA. Rhaid ichi dalu ffi.Ìý
Gogledd Iwerddon
Gwnewch gais i’r DVA i .Ìý
4. Os oes angen ichi ailsefyll eich prawf
Os dywedodd y llys wrthych fod rhaid ichi sefyll prawf gyrru arall cyn gyrru eto, bydd rhaid ichi wneud cais am drwydded dros dro newydd.
Gallwch yrru cyn gynted ag y bydd eich gwaharddiad drosodd a’ch bod wedi pasio’r profion y mae angen ichi eu hailsefyll.Ìý
Sut i gael trwydded newydd
-
Bydd DVLA yn anfon nodyn atgoffa atoch 56 diwrnod cyn i’ch gwaharddiad ddod i ben - defnyddiwch hwn i wneud cais am drwydded yrru dros dro newydd. Os na chawsoch nodyn atgoffa, archebwch ffurflen gais yn lle. Archebwch ffurflen D1W am drwydded car a beic modur neu ffurflen D2W ar gyfer trwydded lori a bws.Ìý
-
Archebwch ac ailsefyll prawf theori ac ymarferol (neu hyfforddiant sylfaenol gorfodol a phrawf ymarferol beic modur os ydych yn reidio beic modur). Archebwch ac ailsefyll prawf ymarferol estynedig os dywedodd y llys wrthych am sefyll un. Mae’r prawf ymarferol estynedig yn parhau am o leiaf 60 munud ac mae ganddo ffioedd uwch.
-
Pan fyddwch wedi pasio’r prawf ymarferol, gofynnwch i’r arholwr drefnu i’ch trwydded newydd gael ei hanfon atoch - gallwch yrru’n gyfreithlon cyn gynted ag y byddwch wedi pasio’r prawf ymarferol.
Os ydych am yrru cerbyd mawr (categori C) neu fws (categori D) rhaid i’r comisiynydd traffig lleol gytuno - bydd DVLA yn gofyn iddynt pan fyddwch yn gwneud cais am eich trwydded lawn newydd.
Mae proses wahanol yng .Ìý
Os oes gennych drwydded gan un o wledydd yr UE
Peidiwch â gwneud cais am drwydded dros dro - gallwch ddefnyddio eich trwydded yrru UE i sefyll y prawf yn lle hynny.
Dilynwch y rheolau arferol ar gyfer dysgu gyrru nes ichi ailsefyll eich prawf a phasio.
5. Newidiadau i'ch enw a'ch cyfeiriad tra'ch bod wedi'ch gwahardd
Dywedwch wrth DVLA os byddwch yn newid eich enw neu gyfeiriad tra’ch bod wedi’ch gwahardd.
Ysgrifennwch gyda manylion eich cyfeiriad hen a newydd, eich enw os yw wedi newid, rhif eich trwydded yrru (os yw’n hysbys) a’ch dyddiad geni.
DVLAÌý
AbertaweÌý
SA99 1AB
Mae proses wahanol yng .Ìý
6. Gwahardd am yfed a gyrru
Gallwch gael eich gwahardd os cewch eich dyfarnu’n euog o yfed a gyrru. Yn dibynnu ar eich trosedd, gallwch hefyd gael dirwy neu gael eich anfon i’r carchar.Ìý
Bydd angen ichi wneud cais am drwydded newydd ar ôl i’ch gwaharddiad ddod i ben.
Os cewch eich gwahardd rhag gyrru am 12 mis neu fwy, efallai y byddwch yn gallu lleihau eich gwaharddiad drwy ddilyn cwrs adsefydlu yfed a gyrru.
Troseddwyr risg uchel
Os ydych yn ‘droseddwr risg uchel�, ni fyddwch yn cael eich trwydded newydd hyd nes y gallwch brofi eich bod yn ffit i yrru eto. Bydd angen ichi basio archwiliad meddygol gydag un o feddygon penodedig DVLA.
Rydych yn droseddwr risg uchel os:Ìý
-
roeddech wedi’ch cael yn euog o 2 drosedd yfed a gyrru o fewn 10 mlynedd
-
roeddech yn gyrru gyda darlleniad alcohol o o leiaf 87.5 microgram o alcohol fesul 100 mililitr (ml) o anadl, 200 miligram (mg) o alcohol fesul 100 ml o waed, neu 267.5 mg o alcohol fesul 100 ml o wrin
-
roeddech wedi gwrthod rhoi sampl o anadl, gwaed neu wrin i’r heddlu i brofi am alcohol
-
roeddech wedi gwrthod caniatáu i sampl o’ch gwaed gael ei brofi am alcohol (er enghraifft, os cafodd ei gymryd pan oeddech yn anymwybodol)Ìý
Byddwch yn cael ffurflen adnewyddu D27PHW 90 diwrnod cyn i’ch gwaharddiad ddod i ben. Rhaid ichi lenwi’r ffurflen a’i hanfon i DVLA i ailymgeisio am eich trwydded.Ìý
Archwiliad meddygol gyda meddyg DVLA
Unwaith y bydd DVLA yn derbyn eich cais am drwydded newydd, byddant yn anfon manylion y meddyg atoch er mwyn ichi allu gwneud apwyntiad.
Bydd rhaid ichi dalu am eich archwiliad.
Yn ystod yr arholiad, byddwch yn:Ìý
-
llenwi holiadur am eich hanes meddygol a’ch defnydd o alcohol
-
cymryd rhan mewn archwiliad corfforol
-
cael prawf gwaed
Mae’r broses yn wahanol yng .
7. Gwahardd am yrru ar gyffuriau
Gallwch gael eich gwahardd rhag gyrru am o leiaf 1 flwyddyn os cewch eich dyfarnu’n euog o yrru ar gyffuriau. Yn dibynnu ar eich trosedd, gallwch hefyd gael eich dirwyo neu eich anfon i’r carchar.Ìý
Rhaid ichi wneud cais am drwydded newydd cyn y gallwch yrru eto.