Sut mae hawlfraint yn diogelu’ch gwaith

Sgipio cynnwys

Trwyddedu a gwerthu eich hawlfraint

Gallwch drwyddedu defnydd eich gwaith os mai chi sy’n berchen ar yr hawlfraint. Gallwch hefyd benderfynu sut y defnyddir eich gwaith. 

Gallwch gofrestru eich gwaith gyda chorff trwyddedu, er enghraifft cymdeithas gasglu, a fydd yn cytuno ar drwyddedau gyda defnyddwyr ar eich rhan ac yn casglu breindaliadau i chi.

Gwerthu neu drosglwyddo eich hawlfraint 

Bydd angen i chi ysgrifennu a llofnodi dogfen (a elwir weithiau yn ‘aseiniad�) i ddangos bod gwerthiant neu drosglwyddiad wedi digwydd. 

Gall eich hawlfraint gael ei drosglwyddo trwy etifeddiaeth a bydd yn ddilys cyhyd â bod y gwaith yn parhau i fod dan hawlfraint - gwirio pa mor hir y mae’r amddiffyniad yn parhau.

Hawliau moesol 

Gallwch gadw neu ildio eich ‘hawliau moesol�, sy’n cynnwys yr hawl i: 

  • cael eich adnabod fel awdur eich gwaith 
  • gwrthwynebu sut mae’r gwaith yn cael ei gyflwyno, er enghraifft os ydych chi’n meddwl ei fod yn ‘ddirmygusâ€� neu’n niweidiol i chi neu’ch enw da 
  • gwrthwynebu newidiadau a wneir i’ch gwaith

Hawliau perfformwyr 

Mae gennych hawliau yn eich perfformiadau ar wahân i hawlfraint os ydych yn berfformiwr.

Er enghraifft, os ydych chi’n actor mewn drama efallai fod gennych chi ‘hawliau economaiddâ€� mewn unrhyw recordiadau neu ddarllediadau o’u perfformiad, hyd yn oed os yw’r hawlfraint yn cael ei werthu.Â