Sut i brisio ystâd at ddiben Treth Etifeddiant a rhoi gwybod am ei gwerth
Gwirio a oes angen i chi anfon manylion llawn am yr ystâd
Gwirio a oes angen i chi anfon manylion llawn am yr ystâd
Cyn i chi roi gwybod am werth yr ystâd (arian, eiddo a meddiannau’r ymadawedig), gwiriwch a oes angen i chi anfon manylion llawn am asedion a dyledion yr ystâd, fel eich bod yn llenwi’r ffurflen cywir.
Mae’r wybodaeth y mae angen i chi ei darparu, a sut y gwnewch hyn, yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys a yw Treth Etifeddiant yn ddyledus ai peidio.
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb ariannol os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir.
Os yw Treth Etifeddiant yn ddyledus
Bydd angen i chi anfon manylion llawn am yr ystâd os yw Treth Etifeddiant yn ddyledus.
Gallwch ddefnyddio’r gwiriwr ar-lein i gael gwybod a yw Treth Etifeddiant yn ddyledus.
Dysgwch beth mae angen i chi ei wneud os yw Treth Etifeddiant yn ddyledus.
Pryd i anfon manylion llawn am werth yr ystâd, hyd yn oed os nad oes unrhyw dreth yn ddyledus
Bydd angen i chi anfon manylion llawn am asedion a dyledion yr ystâd, hyd yn oed os nad oes unrhyw dreth yn ddyledus, os yw un o’r canlynol yn wir am y person a fu farw:
-
rhoddodd dros £250,000 i ffwrdd yn ystod y 7 mlynedd cyn iddo farw
-
gwnaeth roddion ac yna parhau i gael budd ohonynt yn ystod y 7 mlynedd cyn iddo farw
-
gadawodd ystâd werth mwy na £3 miliwn
-
‘ystyriwyd ei fod yn breswylydd domisil� yn y DU (yn agor tudalen Saesneg)
-
roedd ganddo asedion tramor a oedd yn werth mwy na £100,000
-
roedd yn byw’n barhaol y tu allan i’r DU pan fu farw, ond roedd wedi byw yn y DU yn flaenorol
-
roedd ganddo bolisi yswiriant bywyd a dalodd arian i rywun heblaw ei briod neu ei bartner sifil, ac roedd ganddo flwydd-dal hefyd
-
roedd wedi cynyddu gwerth cyfandaliad o bensiwn personol i’w dalu ar ôl ei farwolaeth, tra oedd salwch angheuol arno neu fod ei iechyd yn wael
-
roedd wedi cytuno y byddai eiddo a roddwyd i ffwrdd ganddo yn ystod ei fywyd yn ffurfio rhan o’i ystâd, yn hytrach na thalu ffi am asedion yr oedd yn berchen arnynt yn flaenorol (yn agor tudalen Saesneg)
Mae rheolau gwahanol os bu farw’r person ar neu cyn 31 Rhagfyr 2021 (yn agor tudalen Saesneg).
Os yw’r ystâd yn cynnwys ymddiriedolaethau
Bydd angen i chi anfon manylion llawn am asedion a dyledion yr ystâd, os yw’r canlynol yn wir am y person a fu farw:
-
gwnaeth roddion a dalwyd i mewn i ymddiriedolaethau
-
roedd yn dal asedion a oedd yn werth mwy na £250,000 mewn ymddiriedolaeth
-
roedd yn dal mwy nag un ymddiriedolaeth
Bydd hefyd angen i chi gwblhau manylion llawn os cafodd asedion a ddelir mewn ymddiriedolaeth eu pasio i briod neu bartner sifil sy’n fyw neu i elusen, ac os mai gwerth yr ymddiriedolaeth oedd:
-
£1 filiwn neu fwy
-
£250,000 neu fwy, ar ôl didynnu’r swm sy’n cael ei basio i’r priod neu’r partner sifil sy’n fyw neu i elusen
Pryd nad oes angen manylion llawn
Nid oes angen i chi roi manylion llawn am werth ystâd os yw pob un o’r canlynol yn wir:
-
mae’r ystâd yn cyfrif fel ‘ystâd eithriedig�
-
nid oes Treth Etifeddiant i’w thalu
-
rydych wedi gwirio nad yw’r un o’r rhesymau o dan ‘Pryd i anfon manylion llawn am werth yr ystâd, hyd yn oed os nad oes unrhyw dreth yn ddyledus� yn berthnasol
Mae’r rhan fwyaf o ystadau’n rhai eithriedig.
Beth sy’n cyfrif fel ystâd eithriedig
Mae ystâd fel arfer yn ystâd eithriedig os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
-
mae gwerth yr ystâd o dan y trothwy Treth Etifeddiant cyfredol
-
gwerth yr ystâd yw £650,000 neu lai, ac mae unrhyw drothwy sydd heb ei ddefnyddio (yn agor tudalen Saesneg) yn cael ei drosglwyddo oddi wrth briod neu bartner sifil a fu farw gyntaf
-
gadawodd yr ymadawedig bopeth i briod neu bartner sifil sy’n byw yn y DU neu i elusen gymwys, ac mae’r ystâd yn werth llai na £3 miliwn (chwiliwch yn y gofrestr elusennau (yn agor tudalen Saesneg) am elusennau sydd wedi’u cofrestru yn y DU)
-
roedd yr ymadawedig yn byw’n barhaol y tu allan i’r DU (‘person sy’n preswylio dramor�) pan fu farw, ac mae gwerth ei asedion yn y DU o dan £150,000
Mae rheolau gwahanol ar gyfer ystadau eithriedig os bu farw’r person ar neu cyn 31 Rhagfyr 2021 (yn agor tudalen Saesneg).
Yr hyn i’w wneud nesaf
Mae’r broses y mae angen i chi ei dilyn yn dibynnu a ydych yn delio ag:
-
ystâd lle mae angen rhoi gwybod y manylion llawn ynghylch ei werth
-
ystâd eithriedig
Delio ag ystâd eithriedig
Gallwch roi gwybod am werth ystâd eithriedig os ydych yn gwneud cais am brofiant. Gwiriwch a oes angen profiant arnoch, a gwnewch gais amdano, os felly.
Does dim angen i chi roi gwybod am werth ystâd eithriedig os nad oes angen profiant arnoch.
Mae ffordd wahanol o roi gwybod am ystâd eithriedig os bu farw’r person ar neu cyn 31 Rhagfyr 2021 (yn agor tudalen Saesneg).
Gwneud cais am brofiant yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon
Mae ffordd wahanol o wneud cais am brofiant os oedd yr ymadawedig yn ²Ô±ð³Ü‵µ .
Os oes angen help arnoch gyda phrofiant neu werth ystâd
Cysylltwch â Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF os nad ydych yn sicr a fydd angen profiant arnoch neu os bydd gwerth yr ystâd yn newid.
Y Ganolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Ffôn: 0300 303 0648
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am hyd at 1pm
Ar gau ar wyliau’r banc
Dysgwch am gostau galwadau
E-bost: [email protected]
Os oes angen help arnoch gyda Threth Etifeddiant
Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes gennych gwestiynau ynghylch Treth Etifeddiant.