Talu cosb Hunanasesiad

Printable version

1. Trosolwg

Os byddwch yn methu ag anfon eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad mewn pryd, neu os byddwch yn talu’ch bil yn hwyr, bydd cosb yn cael ei chodi arnoch.

Mae’n rhaid i chi dalu’r gosb cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad ar yr hysbysiad o gosb.

Bydd llog yn cael ei godi arnoch os talwch ar ôl y dyddiad dyledus.

Gallwch apelio yn erbyn cosb os oes gennych esgus rhesymol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Pa mor hir mae taliadau’n ei gymryd

Mae’r amser y mae taliad yn ei gymryd i gyrraedd yn dibynnu ar eich dull o dalu.

Os bydd dyddiad dyledus y taliad ar benwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law Cyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai’ch bod yn talu drwy ddefnyddio Taliadau Cyflymach).

Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf

Gallwch dalu:

3 diwrnod gwaith

Gallwch dalu:

5 diwrnod gwaith

Gallwch dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol os nad ydych wedi trefnu un ar gyfer CThEF yn flaenorol.

2. Debyd Uniongyrchol

»å°ù·É²â’c³ó cyfrif Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar-lein i wneud y taliad.

Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau. Hynny yw, eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K�.

Bydd hwn naill ai:

  • yn eich
  • ar yr hysbysiad o asesiad o gosb a anfonwyd atoch gan CThEF

Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Caniatewch 5 diwrnod gwaith i brosesu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trefnu un am y tro cyntaf. Dylai gymryd 3 diwrnod gwaith y tro nesaf os ydych yn defnyddio’r un manylion banc.

3. Cymeradwyo taliad »å°ù·É²â’c³ó cyfrif banc ar-lein

Gallwch dalu’ch cosb drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.

Pan fyddwch yn barod i dalu, »å°ù·É²â’c³ó cyfrif Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar-lein.

Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc�. Wedyn, bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein, neu’ch cyfrif banc symudol, i gymeradwyo taliad i ‘HMRC Shipley�.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n cymryd hyd at ddwy awr i ymddangos yn eich cyfrif.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

4. Gwneud trosglwyddiad banc

Gallwch dalu’ch cosb drwy ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs.

Bydd yr hysbysiad o asesiad o gosb a anfonwyd atoch gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) yn nodi pa gyfrif banc i dalu i mewn iddo.

Os nad oes gennych hysbysiad o asesiad o gosb, neu os nad ydych yn siŵr, gallwch dalu i mewn i’r naill gyfrif neu’r llall.

Y manylion cyfrif i’w defnyddio

Talwch i mewn i un o’r cyfrifon canlynol:

  • cod didoli - 08 32 10
  • rhif y cyfrif - 12001039
  • enw’r cyfrif - HMRC Cumbernauld

  • cod didoli - 08 32 10
  • rhif y cyfrif - 12001020
  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Os yw’ch cyfrif dramor

Talwch i mewn i un o’r cyfrifon canlynol:

  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB62BARC20114770297690
  • enw’r cyfrif - HMRC Cumbernauld


  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB03BARC20114783977692
  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Bydd rhai banciau yn codi tâl arnoch os nad ydych yn talu mewn punnoedd sterling.

Dyma gyfeiriad banc CThEF:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Wrth dalu, bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau. Hynny yw, eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K�.

Bydd hwn naill ai:

  • yn eich
  • ar yr hysbysiad o asesiad o gosb a anfonwyd atoch gan CThEF

Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Fel arfer, bydd taliadau drwy Daliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os ydych yn talu cyn pen amserau prosesu’ch banc.

Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Gall taliadau o dramor gymryd mwy o amser � holwch eich banc.

5. Â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein

Gallwch .

Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.

Nid oes ffi os talwch â cherdyn debyd personol.

Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Wrth dalu, defnyddiwch eich cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau. Hynny yw, eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K�.

Bydd hwn naill ai:

  • yn eich
  • ar yr hysbysiad o asesiad o gosb a anfonwyd atoch gan CThEF

Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau), nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.

6. Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Gallwch dalu yn eich cangen gan ddefnyddio’r slip talu ar yr hysbysiad o asesiad o gosb a anfonwyd atoch gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig�.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau, ar gefn y siec. Hynny yw, eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K�. Bydd y cyfeirnod i’w weld ar y slip talu.

Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (cyn belled â’ch bod yn talu o ddydd Llun i ddydd Gwener).

7. Talu â siec drwy’r post

Gallwch anfon siec i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy’r post.

CThEF/HMRC
Direct
BX5 5BD

Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Yr hyn i’w gynnwys

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig�.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau, ar gefn y siec. Hynny yw, eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K�. Bydd hwn i’w weld ar eich slip talu.

Sicrhewch eich bod yn cynnwys y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF. Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.

Gall eich taliad gael ei oedi os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir.

Os ydych am wirio bod eich taliad wedi cyrraedd, gallwch gynnwys llythyr gyda’ch taliad er mwyn gofyn am dderbynneb oddi wrth CThEF.

8. Gwirio bod eich taliad wedi dod i law

Ewch i’ch i wirio a yw’ch taliad wedi cyrraedd � dylai ddangos fel ei fod wedi’i dalu cyn pen 3 i 6 diwrnod gwaith yn ddiweddarach.