Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y cyflogwr
Drwy gerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein
Gallwch .
Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.
Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.
Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau) � nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.
Os na allwch dalu’ch bil Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull arall o dalu megis trosglwyddiad banc.
Cyfeirnod
Gwnewch eich taliad i swyddfa ‘HMRC Cumbernauld�. Bydd angen i chi roi cyfeirnod talu, sy’n 17 o gymeriadau. Mae hwn yn dechrau gyda’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau.
Mae hwn ar y llythyr a anfonwyd atoch gan CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr am y tro cyntaf.
Ychwanegwch y flwyddyn dreth rydych am dalu ar ei chyfer a’r digidau �13�. Os na fyddwch yn gwneud hyn, caiff eich taliad ei ddyrannu i’r flwyddyn dreth gyfredol yn lle hynny.
Enghraifft
Eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon yw 123PA00012345.
I wneud taliad ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024, ychwanegwch y digidau �2413� at eich cyfeirnod. Eich cyfeirnod 17 o gymeriadau yw 123PA000123452413.