Terfynau eich eiddo
Printable version
1. Trosolwg
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, fel arfer ni fydd unrhyw gofnod o’r:
- union derfyn rhwng dau eiddo
- pwy sy’n berchen ar y berth, wal, coeden neu ffens rhwng dau eiddo
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cewch ryw syniad ble mae’r terfynau ar gyfer eich eiddo trwy edrych ar ei gynllun teitl. Nid yw’r rhan fwyaf o gynlluniau teitl yn dangos yr union derfynau � fel arfer nid oes angen ichi gael yr union derfynau wedi eu cofnodi unrhyw le.
Mae’r rheolau yn wahanol yn ac yng .
Gallwch wneud cais i gywiro’r cynllun teitl os ydych yn meddwl bod camgymeriad arno.
Cofnodi’r terfyn yn fwy manwl gywir
Gallwch wneud hyn trwy:
2. Gwneud cytundeb terfyn gyda’ch cymydog
Fel arfer, gallwch osgoi creu cytundeb terfyn trwy gael trafodaeth anffurfiol â’ch cymydog.
Cymorth i ddatrys anghydfodau
Cysylltwch â Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig i gael cyngor ar ddatrys anghydfodau ynghylch terfynau.
Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig
[email protected]
Ffôn: 0247 686 8555
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 5.30pm
Darllenwch ragor am gost galwadau
Yr hyn y gall cytundeb terfyn ei wneud
Gallwch chi a’ch cymydog greu ‘cytundeb terfyn� i gofnodi:
- y terfyn rhwng dau eiddo
- pwy sy’n gyfrifol am gynnal perth, wal, coeden neu ffens rhwng dau eiddo
Ceisiwch gyngor cyfreithiol os ydych yn ystyried gwneud cytundeb terfyn.
Yr hyn na all cytundeb terfyn ei wneud
Ni allwch ddefnyddio cytundeb terfyn i werthu neu roi rhan o’ch tir i’ch cymydog.
Ceisiwch gyngor cyfreithiol os ydych am sicrhau bod y cytundeb terfyn yn ddilys o hyd ar ôl i chi neu’ch cymydog werthu eich eiddo.
Yr hyn i’w gynnwys mewn cytundeb terfyn
Rhaid i’ch cytundeb terfyn gynnwys:
- eich enw a’ch cyfeiriad
- enw a chyfeiriad eich cymydog
- dyddiad dechrau’r cytundeb
- y terfyn y cytunwyd arno
Gallwch gynnwys y terfyn trwy ddefnyddio:
- disgrifiad ysgrifenedig
- copi o fap gan yr Arolwg Ordnans � gallwch dynnu llinell neu ysgrifennu arno i ddangos y terfyn
- map rydych wedi ei dynnu eich hun
Enghraifft o gytundeb terfyn
“Cytundeb Terfyn
Gwneir y cytundeb hwn ar 15 Gorffennaf 2017 rhwng John Smith o 10 Acacia Avenue, y mae’r teitl iddo wedi ei gofrestru o dan rif teitl XX12345, a Mary Brown o 12 Acacia Avenue, y mae’r teitl iddo wedi ei gofrestru o dan rif teitl XX67891.
Mae’r partïon yn cytuno bod y terfyn cyfreithiol rhwng y tir o fewn eu teitlau cofrestredig priodol, ac sy’n rhedeg rhwng y pwynt wedi ei nodi ‘A� i’r pwynt wedi ei nodi ‘B� ar y cynllun atodedig, yn unol â’r hyn a ddangosir gan y llinell goch a dynnwyd rhwng y pwyntiau hynny.
Llofnodwyd
[Tyst (Llofnod, enw a chyfeiriad)]
Llofnodwyd
[Tyst (Llofnod, enw a chyfeiriad)]�
Cofnodi eich cytundeb terfyn
Llenwch gais i newid y gofrestr (AP1).
Yn adran 4 o dan ‘Ceisiadau yn nhrefn blaenoriaeth� ysgrifennwch: “Nodi cytundeb terfyn�. O dan ‘Ffïoedd a dalwyd (£)� ysgrifennwch “�40�.
Nid oes yn rhaid ichi lenwi adrannau 9 i 14.
Bydd angen ichi anfon y canlynol:
- y ffurflen AP1 wedi ei llenwi
- copi o’r cytundeb terfyn
- siec neu archeb bost am £40, yn daladwy i ‘CTEF� neu ‘Cofrestrfa Tir EF�
Anfonwch y dogfennau a’r ffi i:
HM Land Registry Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB
Bydd Cofrestrfa Tir EF yn diweddaru’r gofrestr ar gyfer eich eiddo ac yn anfon copi o’r gofrestr wedi ei diweddaru yn ôl atoch. Bydd yn gwneud yr un peth ar gyfer eich cymydog.
3. Gwneud cais i gofnodi’r union derfyn
Gallwch wneud cais i gofnodi’r union derfyn rhwng eich eiddo chi ac eiddo eich cymydog. Gelwir hyn yn gwneud cais am ‘derfyn wedi ei bennu�.
Gallwch wneud hyn dim ond os yw’ch eiddo’n gofrestredig.
Bydd terfyn wedi ei bennu yn ddilys o hyd os ydych chi neu’ch cymydog yn gwerthu eich eiddo.
Gall eich cais gael ei gyfeirio at dribiwnlys os nad yw’ch cymydog yn cytuno ag ef. Ceisiwch gyngor cyfreithiol cyn gwneud cais.
Edrychwch ar gynllun teitl a chofrestr eich eiddo i weld a oes terfyn wedi ei bennu ganddo eisoes.
Gwneud cais am derfyn wedi ei bennu
Bydd angen ichi anfon y canlynol:
- cynllun sy’n dangos y terfyn wedi ei bennu � gofynnwch i wneud hyn
- tystiolaeth sy’n cefnogi eich cais
- ffurflen union linell terfyn (DB) wedi ei llenwi
Tystiolaeth sy’n cefnogi eich cais
Anfonwch unrhyw dystiolaeth sydd gennych sy’n cyfiawnhau terfyn yr arolygwr. Gallai hyn gynnwys:
- copïau ardystiedig o weithredoedd eich eiddo o’r cyfnod cyn y cafodd yr eiddo ei gofrestru
- adroddiad arbenigwr
- datganiad ysgrifenedig wedi ei lofnodi ym mhresenoldeb cyfreithiwr, ynad neu gomisiynydd llwon
Anfon eich cais
£90 yw cost y cais. Bydd yn rhaid ichi dalu’r arolygwr a ffi’r cyfreithiwr hefyd. Os yw’ch cymydog yn cytuno â’ch cais, bydd yn rhaid iddo lofnodi’r ffurflen a’r cynllun hefyd.
Anfonwch bopeth i:
HM Land Registry Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB
Os yw’ch cais yn llwyddiannus, bydd Cofrestrfa Tir EF (CTEF) yn anfon copi o’ch cynllun teitl a chofrestr wedi eu diweddaru atoch. Bydd hefyd yn anfon copi o’r cynllun teitl a chofrestr wedi eu diweddaru at eich cymydog.
Os yw’ch cymydog yn gwrthwynebu’ch cais
Bydd Cofrestrfa Tir EF yn penderfynu a yw’r gwrthwynebiad yn ddilys. Os ydyw, bydd yn rhoi cyfle i chi a’ch cymydog ddod i gytundeb.
Os na allwch ddod i gytundeb, bydd yn trosglwyddo eich cais i dribiwnlys. Efallai y bydd yn rhaid ichi dalu am gyngor cyfreithiol a chyngor gan arolygwr os yw hynny’n digwydd.
Os yw’r tribiwnlys yn cymeradwyo eich cais
Bydd Cofrestrfa Tir EF yn anfon copi o’ch cynllun teitl a chofrestr wedi eu diweddaru atoch. Bydd yn cofnodi’r terfyn wedi ei bennu yn y gofrestr.
Os yw’r tribiwnlys yn gwrthod eich cais
Bydd y tribiwnlys naill ai’n penderfynu ble dylai’r union derfyn fod, neu’n penderfynu peidio â gosod yr union derfyn.
Efallai y bydd yn rhaid ichi dalu costau eich cymydog.
4. Cywiro camgymeriad terfyn ar gynllun teitl
Ysgrifennwch i Gofrestrfa Tir EF (CTEF) os ydych yn credu bod camgymeriad terfyn ar gynllun teitl eiddo.
Bydd yn rhaid i chi:
- egluro pam rydych o’r farn bod camgymeriad yno
- cynnwys unrhyw dystiolaeth sy’n cefnogi eich dadl, megis copïau ardystiedig o weithredoedd yr eiddo.
Anfonwch bopeth i:
HM Land Registry Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB
Os bydd CTEF yn gweld bod camgymeriad, bydd yn dweud wrthych sut i’w unioni.