Cynrychioli eich hun yn y llys
Trosolwg
Mae gennych hawl i siarad drosoch eich hun yn y llys heb gyfreithiwr neu weithiwr cyfreithiol proffesiynol arall.
Gallwch ddewis gwneud hyn oherwydd:
- rydych yn meddwl ei bod yn well siarad yn uniongyrchol â’r barnwr, y rheithgor neu’r ynadon eich hun
- ni allwch fforddio talu ffioedd cyfreithiol
Os ydych yn ystyried cynrychioli eich hun oherwydd na allwch fforddio costau cyfreithiol, gwiriwch a allwch gael cymorth cyfreithiol yn lle hynny.
Byddwch yn cael eich adnabod fel ‘ymgyfreithiwr drosoch eich hun� os ydych yn cynrychioli eich hun. Byddwch hefyd yn cael eich adnabod fel ‘ceisydd�, ‘atebydd� neu ‘ddiffynnydd� yn dibynnu p’un a yw eich achos yn cael ei wrando mewn llys teulu, sifil neu droseddol.
¶Ù²¹°ù±ô±ô±ð²Ô·É³¦³óÌý am gyngor ar sut i gynnal eich achos.
Mae ynaÂ
Rhywun gyda chi yn y llys
Efallai y caniateir i chi gael rhywun i’ch helpu yn y llys drwy gymryd nodiadau a rhoi cyngor, ond ni allant:
- siarad ar eich rhan
- ymyrryd ag achosion
- llofnodi dogfennau ar eich rhan
Gelwir yr unigolyn hwn yn ‘gyfaill McKenzie�.
Bydd y barnwr yn penderfynu a allwch gael cyfaill McKenzie gyda chi yn y llys.
Darllenwch ganllaw ar .
Cael cyngor cyfreithiol
Gallwch dal gael cyngor cyfreithiol i’ch helpu gyda’ch achos, hyd yn oed os byddwch yn dewis cynrychioli eich hun yn y llys.
Darllenwch gyngor ar  ar gyfer dyled, anghydfod neu hawliad anaf personol.