Ffurflen

Sut i lenwi atodlen D31

Diweddarwyd 9 Mai 2025

¶Ù²â±ô±ð³¦³óÌýwirio’r rheolau domisil tybiedig ar gyfer Treth Etifeddiant(yn agor tudalen Saesneg). Mae Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw yn cael eu hystyried yn wledydd tramor o dan y rheolau hyn.

Pryd y dylech lenwi’r ffurflen hon

Digwyddiadau trethadwy cyn 6 Ebrill 2025

Dylech lenwi Atodlen D31 ar gyfer digwyddiadau trethadwy cyn 6 Ebrill 2025 os yw’r canlynol yn wir:

  • roedd y trosglwyddwr yn ddomisil y tu allan i’r DU ar ddyddiad y digwyddiad
  • roedd y setlwr yn ddomisil y tu allan i’r DU ar ddyddiad y sefydlwyd y setliad neu y cafodd yr asedion eu hychwanegu ato

Os ydych yn rhoi gwybod i ni am rodd neu drosglwyddiad arall o werth rydych wedi rhoi gwybod amdano yn ffurflen IHT100a, dylech lenwi manylion y trosglwyddwr. Ar gyfer unrhyw ddigwyddiad arall, dylech lenwi manylion y setlwr.

Digwyddiadau trethadwy ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025

Ar 6 Ebrill 2025, newidiwyd cwmpas Treth Etifeddiant ar asedion y tu allan i’r DU i ddibynnu ar fan preswylio tymor hir y person yn lle ei ddomisil. Mae yna rai eithriadau trosiannol i hyn (yn agor tudalen Saesneg).

Dylech lenwi atodlen D31a i roi gwybod i ni am berson nad yw’n breswylydd tymor hir yn y DU o ran digwyddiadau trethadwy ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025.

Dylech lenwi Atodlen D31 ar gyfer digwyddiadau trethadwy ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025 os yw’r canlynol yn wir:

  • bu farw’r setlwr cyn 6 Ebrill 2025 ac roedd domisil y setlwr y tu allan i’r DU ar y dyddiad:
    • y sefydlwyd y setliad
    • yr ychwanegwyd asedion at y setliad
  • mae domisil y trosglwyddwr neu’r setlwr yn golygu bod Confensiwn Trethiant Dwbl yn berthnasol

Dylech lenwi atodlen D31b er mwyn rhoi gwybod i ni am drosglwyddwr neu setlwr sy’n breswylydd tymor hir yn y DU, ond bod darpariaethau trosiannol yn berthnasol, ar gyfer digwyddiadau trethadwy ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025.

Os nad oedd domisil y trosglwyddwr neu’r setlwr yn y DU

Nid yw Treth Etifeddiant yn ddyledus ar asedion tramor a ddelir mewn ymddiriedolaeth os oedd domisil y setlwr y tu allan i’r DU pan ychwanegwyd yr asedion at yr ymddiriedolaeth ac os yw’r canlynol yn wir:

  • roedd y digwyddiad trethadwy ar neu cyn 5 Ebrill 2025
  • bu farw’r setlwr cyn 6 Ebrill 2025

Gelwir yr asedion hyn yn ‘eiddo eithriedig�.

Mae yna 2 brif eithriad i hyn.

Buddiant mewn eiddo preswyl yn y DU

Ar gyfer taliadau ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, efallai y caiff Treth Etifeddiant ei chodi os yw’r ymddiriedolwyr yn berchen ar naill neu’r llall o’r canlynol:

  • buddiant neu gyfranddaliadau mewn cwmni tramor caeedig
  • buddiant mewn partneriaeth dramor

Dim ond os yw gwerth y buddiant neu’r cyfranddaliadau’n dibynnu ar werth yr eiddo preswyl yn y DU y caiff hon ei chodi. Mae hefyd yn cynnwys:

  • benthyciadau sy’n ddyledus i’r ymddiriedolwyr sydd wedi’u defnyddio i brynu, gwella neu gynnal a chadw eiddo preswyl yn y DU â€� mae hyn yn cynnwys asedion ymddiriedolaeth a ddefnyddir fel gwarant at ddibenion benthyciad
  • enillion o waredu unrhyw fuddiant neu gyfranddaliadau am 2 flynedd yn dilyn y gwarediad

Os yw’r trosglwyddwr neu setlwr yn gyn-breswylydd domisil

Gwiriwch y rheolau domisil tybiedig ar gyfer Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych yn siŵr a oedd y trosglwyddwr neu’r setlwr yn gyn-breswylydd domisil. Os yw’n cyn-breswylydd domisil, yna ni all unrhyw un o’r asedion gael eu trin fel ‘eiddo eithriedig�.

Ystyr ‘domisil gwreiddiol�

Cewch eich domisil gwreiddiol ar adeg eich geni, ond nid yw hwn yr un peth â’ch cenedligrwydd na’r wlad lle cawsoch eich geni.

Os yw’ch rhieni wedi priodi, yna eich domisil gwreiddiol yw ble bynnag y mae cartref parhaol eich tad ar y pryd. Os nad yw’ch rhieni wedi priodi, yna gwlad cartref parhaol eich mam yw e.

Mae’r un rheolau’n berthnasol os ydych chi wedi’ch mabwysiadu, ond byddwch yn defnyddio cartrefi parhaol eich rhiant mabwysiadol.

Gwirio os yw confensiwn neu gytundeb trethiant dwbl fod yn berthnasol

Gwiriwch pa wledydd y mae gan y DU gonfensiwn trethiant dwbl â nhw (yn agor tudalen Saesneg).

Os cafodd domisil dibyniaeth ei hawlio

Ni all plentyn gael domisil annibynnol hyd nes y bydd yn 16 mlwydd oed. Yn lle, mae ei ddomisil yn cael ei bennu gan rywun arall, fel rhiant neu warcheidwad.

Mae’n rhaid i chi ateb cwestiynau 5 i 16 os cafodd domisil dibyniaeth ei hawlio. Dylech lenwi’r adrannau hyn gan ddefnyddio domisil y rhiant neu’r gwarcheidwad.

Fel arfer, dylech ddefnyddio domisil y tad. Mae’n bosibl i chi ddefnyddio domisil y fam os yw’r rhieni’n byw ar wahân a dim ond bod gyda’r fam y mae’r plentyn yn byw.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Dylech ddefnyddio’r ffigurau yn yr atodlen hon i’ch helpu i lenwi’r gyfres o ffurflenni IHT100 (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’n rhaid i chi anfon y ffurflen hon ochr yn ochr â’r gyfres o ffurflenni IHT100 gyflawn. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynnwys copïau o unrhyw ddogfennau rydym wedi gofyn amdanynt.

Cael help 

Dylech gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen hon.