Rhoi gwybod i CThEF am drosglwyddwr neu setlwr sy’n breswylydd tymor hir yn y DU, pan fo darpariaethau trosiannol yn berthnasol (D31b)
Defnyddio’r ffurflen hon i roi gwybod i CThEF am drosglwyddwr neu setlwr sy’n breswylydd tymor hir yn y DU, ond bod darpariaethau trosiannol yn berthnasol. Mae’r ffurflen hon ar gyfer digwyddiadau trethadwy ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025.
Dogfennau
Manylion
Dim ond os ydych yn defnyddio’r ffurflen hon ynghyd â un o ffurflenni IHT100 o ran Treth Etifeddiant (IHT100a i IHT100h) (yn agor tudalen Saesneg) cyflawn y dylech ei defnyddio.
Sut i lenwi’r ffurflen hon
Mae angen i chi wneud y canlynol:
- Lawrlwytho’r ffurflen a’i chadw ar eich cyfrifiadur.
- Agor y ffurflen gan ddefnyddio’r .
- Llenwi’r ffurflen ar y sgrin. Efallai na fydd y ffurflen yn gweithio os byddwch yn ceisio’i hagor yn eich porwr rhyngrwyd. Os na fydd y ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF am ragor o gymorth.