Sut i lenwi’r atodlen D31b
Diweddarwyd 9 Mai 2025
Pwy sy’n breswylydd tymor hir yn y DU
Gallwch ddysgu am beth yw ystyr preswylydd tymor hir yn y DU (yn agor tudalen Saesneg).
Gall person barhau i fod yn breswylydd tymor hir yn y DU am hyd at 10 mlynedd ar ôl iddo adael y DU.
Beth mae hyn yn ei olygu
Cyn 6 Ebrill 2025, domisil y person oedd yn pennu fel oedd eiddo tramor a gafodd ei drosglwyddo ganddo’n cael ei drin at ddiben Treth Etifeddiant.
Ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025, bydd rheolau o ran statws preswylio tymor hir yn y DU yn cael eu defnyddio i bennu fel mae person yn cael ei drin at ddibenion Treth Etifeddiant.
Pryd y dylech lenwi’r ffurflen hon
Dylech lenwi Atodlen D31b ar gyfer digwyddiadau trethadwy ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025 os bydd darpariaethau trosiannol yn berthnasol.
Y darpariaethau trosiannol
Ni fydd asedion nad ydynt yn y DU yn agored i dâl pan fydd y buddiant cymhwysol mewn meddiant yn dod i ben neu fod y buddiolwr yn marw, os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol. Mae’r asedion:
- yn cael eu peryglu mewn setliad o fuddiant cymhwysol mewn meddiant yn union cyn 30 Hydref 2024
- yn cael eu hystyried fel eiddo eithriedig yn union cyn 30 Hydref 2024
Mae’n rhaid i’r asedion fod yn un o’r canlynol ar adeg y digwyddiad trethadwy:
- eiddo nad yw yn y DU
- daliannau mewn Ymddiriedolaeth Unedol Awdurdodedig
- daliannau mewn Cwmnïau Buddsoddi Penagored (OEICs)
Mae yna eithriadau i hyn ar gyfer buddiannau anuniongyrchol mewn eiddo preswyl yn y DU.
Buddiant mewn eiddo preswyl yn y DUÂ
Ar gyfer taliadau ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, efallai y caiff Treth Etifeddiant ei chodi os yw’r ymddiriedolwyr yn berchen ar naill neu’r llall o’r canlynol:Â
- buddiant neu gyfranddaliadau mewn cwmni tramor caeedig
- buddiant mewn partneriaeth dramor
Dim ond os yw gwerth y buddiant neu’r cyfranddaliadau’n dibynnu ar werth yr eiddo preswyl yn y DU y caiff hon ei chodi. Mae hefyd yn cynnwys:Â
- benthyciadau sy’n ddyledus i’r ymddiriedolwyr sydd wedi’u defnyddio i brynu, gwella neu gynnal a chadw eiddo preswyl yn y DU � mae hyn yn cynnwys asedion ymddiriedolaeth a ddefnyddir fel gwarant at ddibenion benthyciad
- yr elw o waredu unrhyw fuddiant neu gyfranddaliadau am 2 flynedd yn dilyn y gwarediad
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Dylech ddefnyddio’r ffigurau yn yr atodlen hon i’ch helpu i lenwi’r gyfres o ffurflenni IHT100 (yn agor tudalen Saesneg).Ìý
Mae’n rhaid i chi anfon y ffurflen hon ynghyd ag un o’r gyfres o ffurflenni IHT100 cyflawn. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynnwys copïau o unrhyw ddogfennau rydym wedi gofyn amdanynt.
Cael help �
Dylech gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen hon.