Arweiniad ar gynlluniau pensiwn Pennod 1
Os ydych yn aelod o gynllun pensiwn cyhoeddus, neu’n gynrychiolydd personol cyfreithiol ar gyfer aelod o’r fath, ac nad ydych yn aelod o gynllun barnwrol neu gynllun llywodraeth leol, gwiriwch sut gallai’r cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus (a elwir yn McCloud) effeithio arnoch chi.
Beth yw cynllun Pennod 1
Ystyr cynllun pensiwn Pennod 1 yw cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus nad yw ar gyfer:
Mae hyn yn cynnwys cynlluniau pensiwn ar gyfer:
-
y GIG
-
y lluoedd arfog
-
athrawon
-
yr heddlu
-
diffoddwyr tân
-
gweision sifil
Mae cynlluniau Pennod 1 wedi’u rhannu’n ddwy:
-
cynlluniau newydd � cynlluniau a ddechreuodd o 1 Ebrill 2015 ymlaen (ar ôl diwygio pensiynau gwasanaeth cyhoeddus)
-
cynlluniau hanesyddol � cynlluniau a ddechreuodd cyn 1 Ebrill 2015
I bwy y mae’r cynllun unioni’n berthnasol
Dim ond os oes gennych wasanaeth y gellir ei unioni y mae’r cynllun unioni’n berthnasol.
Ystyr gwasanaeth y gellir ei unioni yw (pob un o’r canlynol):
-
lle’r oedd gennych wasanaeth pensiynadwy ar 31 Mawrth 2012 neu cyn hynny
-
lle’r oedd gennych wasanaeth pensiynadwy drwy gynllun Pennod 1 neu wasanaeth athrawon sydd dros ben ar unrhyw adeg rhwng 1 Ebrill 2015 a hyd at 31 Mawrth 2022 ar gyfer cynllun nad yw’n gynllun asiantaeth, neu rhwng 1 Ebrill 2016 a hyd at 31 Mawrth 2022 ar gyfer cynllun asiantaeth (sef cyfnod y cynllun unioni)
-
lle nad oedd gennych fwlch yn eich gwasanaeth pensiynadwy a barodd fwy na 5 mlynedd, ac a ddechreuodd neu a ddaeth i ben rhwng 1 Ebrill 2012 a 31 Mawrth 2015 (31 Mawrth 2016 ar gyfer cynllun asiantaeth
Mae gwasanaeth athrawon sydd dros ben yn cyfeirio at y gyflogaeth ran-amser, lle mae gan athro gyflogaeth amser llawn a chyflogaeth ran-amser ar yr un pryd, a bod y gyflogaeth ran-amser yn bensiynadwy yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Sut mae’r cynllun unioni’n effeithio arnoch chi
Mae sut y mae hyn yn effeithio arnoch yn dibynnu ar eich statws, neu statws yr aelod y rydych yn gynrychiolydd personol cyfreithiol ar ei gyfer, yn y cynllun ar 30 Medi 2023 ymlaen, sef:
-
aelod gweithredol � roeddech yn dal i gronni buddiannau pensiwn yn eich cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus, ac nid oeddech wedi dechrau cymryd eich buddiannau pensiwn eto
-
aelod gohiriedig � nid oeddech yn cronni buddiannau pensiwn yn eich cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus mwyach, ac nid oeddech wedi dechrau cymryd eich buddiannau pensiwn eto
-
aelod-bensiynwr � roeddech wedi dechrau cymryd eich buddiannau pensiwn
-
aelod ymadawedig
Dirwyn yn ôl
Drwy’r cynllun unioni, bydd gwasanaeth pensiynadwy drwy’r cynllun Pennod 1 newydd yn cael ei ddirwyn yn ôl i’r cynllun Pennod 1 hanesyddol.
Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw wasanaeth pensiynadwy, hyd at 31 Mawrth 2022 a chan gynnwys y dyddiad hwnnw, yn cael ei drin fel gwasanaeth sydd wastad wedi bod yn y cynllun Pennod 1 hanesyddol, ac nad yw erioed wedi bod yn y cynllun Pennod 1 newydd.
Bydd unrhyw wasanaeth pensiynadwy o 1 Ebrill 2022 ymlaen yn cael ei gronni yn y cynllun Pennod 1 newydd.
Bydd hyn yn effeithio ar y swm a delir i mewn i’r pensiwn, a fydd yn cael ei ddangos ar ddatganiad cynilion y pensiwn.
Sut yr effeithir ar drosglwyddiadau i’r cynllun
Mae’r modd yr ymdrinnir â throsglwyddiadau i’r cynllun newydd yn ystod cyfnod y cynllun unioni yn dibynnu ar reolau’r cynllun pensiwn. Gall gweinyddwr eich cynllun pensiwn roi gwybod i chi sut y byddant yn cael eu trin.
Sut yr effeithir ar gyfraniadau gwirfoddol i’r cynllun newydd
Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd unrhyw gyfraniadau gwirfoddol a wneir i’r cynllun newydd yn ystod cyfnod y cynllun unioni yn cael eu dirwyn yn ôl yn awtomatig
Bydd rheoliadau’r cynllun yn nodi a ydych yn cael dewis sut yr ymdrinnir â’ch cyfraniadau gwirfoddol. Bydd gweinyddwr eich cynllun yn rhoi gwybod i chi pa opsiynau sydd gennych.
Aelodau gweithredol a gohiriedig
Os oeddech yn aelod gweithredol neu’n aelod gohiriedig ar 30 Medi 2023, bydd angen i chi ddewis a ydych am gymryd buddiannau’r cynllun hanesyddol neu fuddiannau’r cynllun newydd ar gyfer cyfnod y cynllun unioni pan fyddwch yn ymddeol.
Os na fyddwch yn gwneud penderfyniad, gweinyddwr y cynllun fydd yn penderfynu a ddylech gael buddiannau’r cynllun newydd.
Pensiynwyr ac aelodau ymadawedig
Os ydych yn bensiynwr neu’n gynrychiolydd personol cyfreithiol ar gyfer aelod ymadawedig, byddwch yn cael:
-
datganiad gwasanaeth y gellir ei unioni
-
yna gofynnir i chi ddewis a ydych yn dymuno cael buddiannau’r cynllun Pennod 1 newydd neu fuddiannau’r cynllun hanesyddol ar gyfer cyfnod y cynllun unioni
Os byddwch yn dewis buddiannau’r cynllun newydd, bydd y buddiannau’n digwydd yn ôl-weithredol. Mae hyn yn golygu bod swm y buddiant yn newid, gan ddyddio’n ôl i’r adeg yn union cyn i chi ddod yn gymwys i gael eich pensiwn. Os bu farw’r person cyn dod yn gymwys i gael ei bensiwn, bydd yn dyddio’n ôl i’r adeg yn union cyn ei farwolaeth.
Rhaid i chi wneud penderfyniad cyn pen blwyddyn i gael y datganiad gwasanaeth y gellir ei unioni. Os na fyddwch yn gwneud penderfyniad, gweinyddwr y cynllun fydd yn penderfynu a ddylech gael buddiannau’r cynllun newydd.
Gwirio a yw’r cynllun unioni’n effeithio ar eich treth
O ganlyniad i’r cynllun unioni, gall y cyfraniadau pensiwn y dylech fod wedi’u talu yn ystod cyfnod y cynllun unioni fod yn wahanol, ond ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw ryddhad treth a gawsoch. Bydd darparwr eich cynllun pensiwn yn rhoi gwybod i chi a ydych wedi talu gormod neu heb dalu digon o gyfraniadau pensiwn, a pha gamau y mae angen i chi eu cymryd.
Os oedd gennych dâl treth lwfans blynyddol, neu os oeddech yn agos at hynny
Efallai bod eich sefyllfa dreth wedi newid os yw’r swm a delir i mewn i’ch pensiwn wedi newid o ganlyniad i’r cynllun unioni. Os oeddech yn agos at gael tâl treth lwfans blynyddol (yn agor tudalen Saesneg) yn ystod cyfnod y cynllun unioni, efallai y bydd angen i chi adolygu a chyfrifo eich sefyllfa o ran y lwfans blynyddol.
Gwiriwch a yw hyn wedi effeithio ar eich lwfans blynyddol. Os yw hyn wedi cael effaith, bydd angen i chi gyfrifo eich sefyllfa dreth a gwneud cais i’w chywiro.
Effaith ar daliadau treth lwfans blynyddol
Os cawsoch ddigwyddiad crisialu buddiannau yn ystod cyfnod y cynllun unioni, efallai y bydd hyn wedi cael ei ddiweddaru. Dylech wirio sut mae hyn wedi effeithio ar eich lwfans oes, oherwydd gall ad-daliad o dâl blaenorol fod yn ddyledus i chi, neu efallai y byddwch yn atebol am dalu tâl newydd neu dâl wedi’i gynyddu.
Os codir tâl wedi’i gynyddu neu dâl newydd, bydd gweinyddwr eich cynllun pensiwn yn cysylltu â chi i roi gwybod beth yw’r swm.
Yr hyn y bydd gweinyddwr eich cynllun yn ei anfon atoch
Datganiad gwasanaeth y gellir ei unioni
Bydd gweinyddwr eich cynllun pensiwn yn anfon datganiad gwasanaeth y gellir ei unioni atoch erbyn 1 Ebrill 2025, beth bynnag fo’ch statws. Bydd hyn yn rhoi manylion y buddiannau drwy’r cynllun hanesyddol, yn ogystal â drwy’r cynllun newydd � gan eich galluogi i gymharu’r buddiannau.
Bydd aelodau gweithredol yn parhau i gael datganiad gwasanaeth y gellir ei unioni bob blwyddyn nes i chi ddewis pa fuddiant i’w gymryd.
Bydd angen i aelodau gohiriedig ofyn am unrhyw ddatganiadau gwasanaeth y gellir ei unioni pellach gan weinyddwr eich cynllun pensiwn.
Datganiad cynilion pensiwn
Os cawsoch ddatganiadau cynilion pensiwn yn ystod y blynyddoedd treth a gwmpesir gan y cynllun unioni, bydd gweinyddwr eich cynllun pensiwn yn anfon datganiadau wedi’u diwygio atoch os yw’r swm a delir i mewn i’ch pensiwn wedi newid.
Os na chawsoch ddatganiadau cynilion pensiwn yn ystod y blynyddoedd treth a gwmpesir gan y cynllun unioni, ond bod gweinyddwr eich cynllun pensiwn yn nodi cynnydd yn y swm a delir i mewn i’ch pensiwn sydd dros y lwfans blynyddol ar gyfer y flwyddyn dreth (yn agor tudalen Saesneg), bydd yn anfon datganiad newydd atoch.
Gallwch hefyd ofyn am ddatganiadau gan weinyddwr eich cynllun pensiwn.
Dylech ddefnyddio’r datganiadau hyn i’ch helpu i gyfrifo a oes gennych dâl treth lwfans blynyddol newydd, neu a yw wedi cynyddu neu ostwng.
Datganiad digwyddiad crisialu buddiannau
Bydd gweinyddwr eich cynllun pensiwn yn anfon datganiad wedi’i ddiwygio atoch ar gyfer digwyddiad crisialu buddiannau os yw swm eich digwyddiad crisialu buddiannau wedi newid.
Os anfonir datganiad atoch ar gyfer digwyddiad crisialu buddiannau, a’ch bod wedi cael digwyddiad crisialu buddiannau mewn cynllun pensiwn arall, rhaid i chi anfon copi i’r cynllun pensiwn arall.
Os ydych wedi optio allan o’ch pensiwn
Os gwnaethoch optio allan o’ch cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus yn ystod cyfnod y cynllun unioni, gallwch ofyn i’ch cynllun pensiwn a allwch optio yn ôl i mewn i’r cynllun.
Ar gyfer gweision sifil, a ddewisodd gael , gallwch ofyn am gael eich dychwelyd i gynllun hanesyddol y Gwasanaeth Sifil.
Bydd rheoliadau eich cynllun yn nodi’r amodau ar gyfer sut y gallwch wneud hyn.
Os ydych am i asiant weithredu ar eich rhan
Bydd angen i chi roi caniatâd ysgrifenedig os ydych am i asiant gyflwyno eich gwybodaeth wedi’i diweddaru i CThEF. Bydd yr asiant wedyn yn gallu defnyddio’r gwasanaeth Cyfrifo’r addasiad i’ch pensiwn gwasanaeth cyhoeddus i wirio unrhyw newidiadau yn eich sefyllfa dreth a chyflwyno’r wybodaeth ar eich rhan.