Gwirio sut mae’r cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus yn effeithio ar eich lwfans oes
Os oes gennych ddiogelwch lwfans oes pensiwn, neu os ydych wedi cael digwyddiad crisialu buddiannau, gwiriwch a yw’r cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus (a elwir yn McCloud) wedi effeithio ar y rhain.
Sut y gallai’r cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus fod wedi effeithio ar eich taliadau lwfans oes
Cyn 6 Ebrill 2023, pe bai gwerth cyfunol eich holl gronfeydd pensiwn yn fwy na naill ai’r lwfans oes safonol neu lwfans oes uwch wedi’i ddiogelu, roedd yn rhaid i chi dalu tâl lwfans oes ar y swm dros ben.
Os ydych wedi cael digwyddiad crisialu buddiannau (pan fydd gwerth eich pensiwn yn cael ei brofi yn erbyn y lwfans oes, er enghraifft, pan fydd eich pensiwn yn cael ei dalu am y tro cyntaf) mewn cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus, gallai swm y lwfans oes a ddefnyddiwyd fod wedi cael ei effeithio gan y cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus.
Bydd y math o gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus rydych chi’n aelod ohono yn pennu sut y byddwch yn cael eich effeithio.
Aelod o gynllun pensiwn Pennod 1
Os ydych wedi cael eich ychwanegu yn ôl i gynllun Pennod 1 hanesyddol, bydd unrhyw ddigwyddiadau crisialu buddiannau sydd wedi digwydd o dan y cynllun newydd, a hynny cyn 1 Hydref 2023, yn cael eu trin fel rhai sydd wedi digwydd o dan y cynllun hanesyddol, oni bai bod rhan o’r digwyddiad crisialu buddiannau yn ymwneud â’r canlynol:
-
unrhyw wasanaeth pensiynadwy ar neu ar ôl 1 Ebrill 2022
-
cyfraniadau gwirfoddol yr aelod
-
trosglwyddiadau a ddaeth i law y cynllun Pennod 1 newydd
Os oes gennych ddigwyddiad crisialu buddiannau wedi’i ddiweddaru, bydd gweinyddwr eich cynllun yn anfon datganiad digwyddiad crisialu buddiannau wedi’i ddiweddaru atoch, gan nodi unrhyw newidiadau i’r swm o lwfans oes rydych wedi’i ddefnyddio.
Aelod o gynllun pensiwn Pennod 2
Os ydych chi’n aelod heb ei ddiogelu, neu’n aelod wedi’i ddiogelu rhag meinhau, o gynllun Pennod 2 ac yn penderfynu cymryd budd-daliadau’r cynllun hanesyddol, bydd unrhyw fudd-daliadau a gawsoch o gynllun 2015 nawr yn cael eu trin fel pe baent yn dod o’r cynllun hanesyddol. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw ddigwyddiadau crisialu buddiannau a ddigwyddodd yng nghynllun 2015 yn cael eu trin fel pe na baent wedi digwydd o gwbl, oni bai bod unrhyw ran o’r digwyddiad crisialu buddiannau yn ymwneud â’r canlynol:
- cyfraniadau gwirfoddol yr aelod
- trosglwyddiadau a ddaeth i law cynllun 2015
Byddwch yn cael datganiad digwyddiad crisialu buddiannau wedi’i ddiweddaru sy’n dangos canran wedi’i ddiweddaru o’r lwfans oes a ddefnyddir, hyd yn oed os yw’n 0%.
Os ydych chi’n aelod wedi’i ddiogelu rhag meinhau ac yn dewis cynllun 2015, bydd unrhyw fudd-daliadau a gawsoch o’r cynllun hanesyddol sy’n ymwneud â gwasanaeth o 1 Ebrill 2015 nawr yn cael eu trin fel pe baent wedi bob o dan gynllun 2015 erioed. Gan fod y budd-daliadau hyn yn symud o gynllun heb ei gofrestru i gynllun pensiwn cofrestredig, byddwch yn cael datganiad digwyddiad crisialu buddiannau newydd a fydd yn nodi diweddariad i’r swm o lwfans oes a ddefnyddir.
Aelod o gynllun pensiwn Pennod 3
Os ydych chi’n aelod o gynllun Pennod 3, gallai tanategu estyniad cyflog terfynol roi hawl i chi gael budd-daliadau ychwanegol. Os byddwch yn cael y budd-daliadau ychwanegol hyn, ni fydd unrhyw ddigwyddiadau crisialu buddiannau blaenorol yn cael eu diweddaru.
Os ydych chi’n cael budd-daliadau ychwanegol, byddant yn cael eu talu i chi fel digwyddiad crisialu buddiannau newydd, a hynny’n dechrau o’r dyddiad hwnnw. Byddwch yn cael datganiad digwyddiad crisialu buddiannau newydd a fydd yn cadarnhau swm y lwfans oes a ddefnyddir gan y digwyddiad newydd hwn. Mae’r lwfans oes a fydd yn cael ei ddefnyddio i brofi yn erbyn y budd-daliadau ychwanegol hyn yn seiliedig ar werth y lwfans oes ar yr adeg pan fydd y budd-daliadau ychwanegol yn cael eu talu.
Os ydych chi’n cael datganiad digwyddiad crisialu buddiannau wedi’i ddiwygio
Byddwch yn cael datganiad digwyddiad crisialu buddiannau wedi’i ddiwygio gan eich cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus os yw swm y lwfans oes a ddefnyddir wedi newid. Gall hyn olygu bod gennych un o’r canlynol:
-
tâl lwfans oes newydd
-
tâl lwfans oes sydd wedi cynyddu
-
tâl lwfans oes sydd wedi gostwng
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF am unrhyw newidiadau i’ch sefyllfa o ran tâl lwfans oes.
Rhoi gwybod i gynlluniau pensiwn eraill am newidiadau yn eich lwfans oes
Os ydych wedi cael digwyddiad crisialu buddiannau o dan gynllun pensiwn arall ar ôl digwyddiad crisialu buddiannau eich cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus, bydd angen i chi rannu unrhyw ddatganiad digwyddiad crisialu buddiannau wedi’i ddiweddaru gyda gweinyddwr cynllun y cynllun hwnnw.
Os yw swm y lwfans oes a ddefnyddir wedi cynyddu, ac mae gennych dâl lwfans oes newydd, neu dâl lwfans oes sydd wedi cynyddu mewn cynllun pensiwn nad yw’n wasanaeth cyhoeddus, gall gweinyddwr y cynllun wneud cais i ryddhau’r tâl hwnnw, sy’n golygu mai chi yn unig sy’n atebol am y tâl. Os codwyd y tâl o ganlyniad i’r cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus, gallwch ofyn i’ch cynllun pensiynau gwasanaeth cyhoeddus dalu’r tâl ar eich rhan.
Os yw’ch tâl lwfans oes wedi gostwng
Os gwnaeth eich tâl lwfans oes ostwng, a digwyddodd y digwyddiad crisialu buddiannau rhwng 6 Ebrill 2015 a 5 Ebrill 2019, gallwch hawlio iawndal am y gwahaniaeth.
Os gwnaeth eich tâl lwfans oes ostwng, a digwyddodd y digwyddiad crisialu buddiannau rhwng 6 Ebrill 2019 a 5 Ebrill 2023, bydd CThEF yn ad-dalu’r gwahaniaeth. Yn dibynnu ar bwy wnaeth dalu’r tâl, bydd yr iawndal yn cael ei ad-dalu naill ai:
- yn uniongyrchol i chi, os gwnaethoch chi dalu’r tâl yn wreiddiol
- i weinyddwr eich cynllun, os gwnaeth gweinyddwr eich cynllun dalu’r tâl yn wreiddiol � byddant yn gofyn am yr ad-daliad ac yn addasu eich budd-daliadau yn unol â hynny
Dylech ddefnyddio’r canllaw Cyfrifo’ch addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus i roi gwybod i CThEF am y newidiadau.
Os ydych wedi cael tâl lwfans oes newydd neu dâl lwfans oes sydd wedi cynyddu
Os oes gennych dâl lwfans oes newydd neu dâl lwfans oes sydd wedi cynyddu, a digwyddodd y digwyddiad crisialu buddiannau rhwng 6 Ebrill 2015 a 5 Ebrill 2019, yn y rhan fwyaf o achosion ni fydd yn rhaid i chi na’ch gweinyddwr cynllun dalu unrhyw dreth ychwanegol o ganlyniad i’r cynllun unioni.
Os oes gennych dâl lwfans oes newydd neu dâl lwfans oes sydd wedi cynyddu, a digwyddodd y digwyddiad crisialu buddiannau rhwng 6 Ebrill 2019 a 5 Ebrill 2022, byddwch chi a gweinyddwr eich cynllun yn atebol ar y cyd am y tâl hwn. Bydd gweinyddwr eich cynllun yn rhoi gwybod i chi faint yw’r tâl lwfans oes.
Rhoi gwybod am unrhyw daliadau lwfansau oes newydd neu daliadau lwfans oes sydd wedi cynyddu gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar gyfer cyfrifo’ch addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus.
Os oes gennych dâl lwfans oes ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023, dylech roi gwybod am hyn ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn ôl yr arfer. Os nad ydych yn siŵr a fydd swm y tâl yn newid, dylech lenwi’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad gan ddefnyddio’r wybodaeth a roddwyd i chi ar y pryd gan weinyddwr eich cynllun pensiwn.
Os oes unrhyw newidiadau o ganlyniad i’r cynllun unioni, dylech roi gwybod am unrhyw daliadau lwfansau oes newydd neu daliadau lwfans oes sydd wedi cynyddu gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar gyfer cyfrifo’ch addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus.
Terfynau amser estynedig a dyddiadau cau
Mae’r terfynau amser wedi’u hymestyn lle mae taliadau treth wedi codi o ganlyniad i’r cynllun unioni, rhwng 6 Ebrill 2019 a 5 Ebrill 2023.
Lle mae newidiadau i bwy sy’n agored i’r taliadau treth hyn, bydd y cynllun unioni yn gwneud newidiadau ôl-weithredol. Byddwch yn gallu defnyddio’r gwasanaeth ar gyfer cyfrifo’ch addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus i roi gwybod am newidiadau i unrhyw daliadau lwfansau oes.
Os yw’r cynllun unioni yn effeithio arnoch chi, mae’n rhaid i chi roi gwybod am daliadau, neu newidiadau i daliadau blaenorol, erbyn 31 Ionawr 2025 os ydych chi’n aelod o un o’r cynlluniau canlynol:
- Cynllun pensiwn Pennod 1 a, cyn 1 Hydref 2023, nad oeddech wedi dechrau cymryd pensiwn, neu os ydych chi’n gynrychiolydd personol cyfreithlon ar gyfer aelod sydd wedi marw ac nad oedd wedi marw cyn y dyddiad hwn
- Cynllun pensiwn Pennod 2
- Cynllun pensiwn Pennod 3
Mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw daliadau neu newidiadau i daliadau blaenorol erbyn 31 Ionawr 2027 os ydych chi’n cael eich effeithio gan y cynllun unioni ac roeddech yn bensiynwr ar 1 Hydref 2023, neu’n gynrychiolydd personol cyfreithlon y person a fu farw cyn 1 Hydref 2023.
Os ydych chi’n fwy nag un math o aelod, megis rydych yn aelod mewn un cynllun ac yn bensiynwr mewn cynllun arall, mae gennych tan y diweddaraf o’r dyddiadau i roi gwybod i CThEF am unrhyw daliadau, neu newidiadau i daliadau blaenorol.
Treth a ordalwyd yn wreiddiol gan yr aelod
Lle rydych wedi gordalu treth o’r blaen, a hynny o ganlyniad i’r cynllun unioni, byddwch yn gallu gofyn am ad-daliad gan CThEF. Byddwn yn rhoi gwybod i chi a yw’ch cais am ad-daliad yn llwyddiannus ai peidio.
Os yw’r cynllun unioni yn effeithio arnoch chi, mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw daliadau, neu newidiadau i daliadau blaenorol, erbyn 31 Ionawr 2029 os ydych chi’n aelod o un o’r cynlluniau canlynol:
-
Cynllun pensiwn Pennod 1 ac, cyn 1 Hydref 2023, nad oeddech wedi dechrau cymryd pensiwn, neu os ydych chi’n gynrychiolydd personol cyfreithlon ar gyfer aelod sydd wedi marw ac nad oedd wedi marw cyn y dyddiad hwn
-
Cynllun pensiwn Pennod 2
-
Cynllun pensiwn Pennod 3
Mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw daliadau neu newidiadau i daliadau blaenorol erbyn 31 Ionawr 2031 os ydych chi’n cael eich effeithio gan y cynllun unioni ac roeddech yn bensiynwr ar 1 Hydref 2023, neu’n gynrychiolydd personol cyfreithlon y person a fu farw cyn 1 Hydref 2023.
Llog ar ad-daliadau
Os oes gennych ostyngiad mewn eich tâl lwfans oes rhwng 6 Ebrill 2019 a 5 Ebrill 2023, a hynny o ganlyniad i’r cynllun unioni, byddwn yn cyfrifo llog ar ad-daliadau yn seiliedig ar y flwyddyn dreth y mae’r taliadau’n berthnasol iddi.
Diogelwch lwfans oes
Ers 6 Ebrill 2006, mae gwahanol fesurau diogelwch lwfans oes wedi cael eu cyflwyno. Maent yn eich diogelu rhag gostyngiadau yn y lwfans oes safonol. Os oes gennych, neu os ydych wedi cael diogelwch lwfans oes yn flaenorol, efallai y byddai’r cynllun unioni wedi effeithio arno.
Sut mae diogelwch penodol 2016 yn cael ei effeithio
Os oes gennych ddiogelwch penodol 2016, ni fyddwch yn colli’r diogelwch hwn rhag cynnydd mewn budd-daliadau o ganlyniad i’r cynllun unioni os ydych yn aelod o un o’r canlynol:
- Cynllun pensiwn Pennod 1, ac yn dewis budd-daliadau’r cynllun newydd
- Cynllun pensiwn Pennod 3
Mae hyn oherwydd nad yw unrhyw fudd-daliadau a gronnwyd o ganlyniad i’ch dewisiad neu’r tanategu (ar gyfer aelodau cynllun pensiwn Pennod 3) yn cael eu cynnwys wrth ystyried a yw budd-daliadau wedi cronni.
Mae’n rhaid i’ch cynllun pensiwn hefyd drosglwyddo’r symiau a’r asedion sy’n cynrychioli’ch hawliau heb eu crisialu o dan y cyfrif pensiwn partneriaeth i’r cynllun hanesyddol perthnasol, a hynny os ydych chi’n aelod o gynllun Pennod 1 neu gynllun Pennod 2 ac mae’r canlynol yn wir:
- rydych chi’n dal hawliau o dan gyfrif pensiwn y bartneriaeth
- rydych chi wedi gwneud dewis ar gyfer y cynllun hanesyddol
Os ydych chi’n dal Diogelwch Penodol 2016, bydd y trosglwyddiad hwn yn cael ei anwybyddu wrth ystyried a yw’n drosglwyddiad a ganiateir, ac felly ni fydd yn effeithio ar eich diogelwch.
Adfer diogelwch lwfans oes a gollwyd yn flaenorol
Gallwch ofyn am gael adfer un o’r diogelwch lwfans oes canlynol os nad yw’r rheswm y gwnaethoch ei golli (er enghraifft, ymuno â chynllun pensiwn newydd) yn berthnasol pellach:
-
diogelwch uwch
-
diogelwch penodol
-
diogelwch penodol 2014
-
diogelwch penodol 2016
Gallwch hefyd ofyn am gael adfer eich diogelwch os nad yw’r rheswm gwreiddiol y gwnaethoch ei golli yn berthnasol pellach, ond ers hynny rydych wedi gwneud rhywbeth i golli eich diogelwch. Bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am y newid o ran y dyddiad y gwnaethoch golli’ch diogelwch. Bydd hyn dim ond yn berthnasol i chi os ydych wedi cael digwyddiad crisialu buddiannau rhwng y ddau ddyddiad.
Sut mae gorchmynion rhannu pensiwn yn cael eu heffeithio
Os oes gennych orchymyn rhannu pensiwn, a’ch bod yn aelod debyd pensiwn neu’n aelod credyd pensiwn (er enghraifft, yn dilyn ysgariad) o gynllun Pennod 1 neu gynllun Pennod 2, gall y ffordd y mae’ch debyd pensiwn neu gredyd pensiwn yn cael ei drin gael ei heffeithio
Aelod debyd pensiwn
Os yw’ch gorchymyn rhannu pensiwn yn cynnwys hawliau pensiwn sy’n gysylltiedig â gwasanaeth y gellir ei unioni, bydd swm y debyd yn cael ei bennu gan eich budd-daliadau dewisol. Mae hyn yn golygu, fel aelod debyd pensiwn, gallai eich hawl gynyddu neu ostwng.
Aelod credyd pensiwn
Os ydych chi’n aelod credyd pensiwn, ac mae’r gorchymyn rhannu pensiwn yn cynnwys hawliau pensiwn sy’n gysylltiedig â gwasanaeth y gellir ei unioni, byddwch yn cael hawliau pensiwn yn seiliedig ar naill ai gwerth trosglwyddo cyfwerth ag arian parod ar gyfer cronni cynllun hanesyddol, neu ar gyfer cronni cynllun newydd, p’un bynnag sydd uwch.
Gall swm y credyd pensiwn newid, ond ni fydd y newid yn berthnasol yn ôl-weithredol os gwnaed y gorchymyn rhannu pensiwn:
- cyn 1 Hydref 2023 ar gyfer cynllun pensiwn Pennod 1
- cyn yr ymarfer opsiynau ar gyfer cynllun pensiwn Pennod 2
Os yw’ch budd-daliadau credyd pensiwn yn cael eu talu, ac mae swm eich credyd pensiwn yn newid, ni fydd eich digwyddiad crisialu buddiannau gwreiddiol yn cael ei newid.
Updates to this page
-
Welsh translation added.
-
Information on how to apply for individual protection 2016 has been removed.
-
ʹapp 'Check if you are affected by the public service pensions remedy' tool has been removed.
-
We have updated the word ‘beneficiary� with 'legal personal representative� in the guidance.
-
First published.