Mynediad at Waith: cael cefnogaeth os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd
Beth yw Mynediad at Waith
Gall Mynediad at Waith eich helpu chi i gael neu aros mewn gwaith os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd corfforol neu feddyliol.
Bydd y gefnogaeth a gewch yn dibynnu ar eich anghenion. Drwy Mynediad at Waith, fe allwch wneud cais am:
- grant i鈥檆h helpu dalu am gymorth ymarferol gyda鈥檆h gwaith
- cefnogaeth gyda rheoli eich iechyd meddwl yn y gwaith
- arian i dalu ar gyfer cefnogaeth cyfathrebu mewn cyfweliadau gwaith
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English), a fformat Hawdd ei Ddarllen.
Cymorth ymarferol gyda鈥檆h gwaith
Gallai Mynediad at Waith roi grant i鈥檆h helpu dalu am bethau fel:
- offer arbenigol a meddalwedd cynorthwyol
- gweithwyr cefnogi, fel cyfieithwyr BSL, anogwr gwaith neu ffrind i deithio 芒 nhw
- costau teithio i鈥檙 gwaith, os na allwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
- addasiadau i鈥檆h cerbyd fel eich bod yn gallu cyrraedd eich gwaith
- newidiadau corfforol i鈥檆h gweithle
Gall eich gweithle gynnwys eich cartref os ydych yn gweithio o adref rywfaint neu鈥檙 cyfan o鈥檙 amser.
Nid yw o bwys faint ydych yn ennill. Os ydych yn cael grant Mynediad at Waith, ni fydd yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill rydych yn ei gael a ni fydd rhaid i chi ei dalu n么l.
Efallai bydd rhaid i chi neu鈥檆h cyflogwr dalu rhai costau o flaen llaw a鈥檜 hawlio n么l nes ymlaen.
Sut i wneud cais
Gwiriwch eich bod yn gymwys ac yna gwnewch gais am grant Mynediad at Waith.
Cefnogaeth iechyd meddwl
Gallwch gael cymorth i reoli eich iechyd meddwl yn y gwaith, a allai gynnwys:
- cynllun wedi鈥檌 deilwra i鈥檆h helpu cael neu aros mewn gwaith
- sesiynau un i un gyda gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol
Sut i wneud cais
Gwiriwch os ydych yn gymwys ac yna gallwch gwneud cais yn uniongyrchol i un ai neu .
Cefnogaeth cyfathrebu ar gyfer cyfweliadau swydd
Gall Mynediad at Waith helpu i dalu am gefnogaeth cyfathrebu mewn cyfweliad swydd os:
- ydych yn fyddar dreu drwm eich clyw ac angen cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) neu siaradwr gwefus
- os oes gennych gyflwr iechyd neu anhawster dysgu corfforol neu feddyliol ac angen cefnogaeth cyfathrebu
Darganfyddwch fwy a gwneud cais am gefnogaeth cyfathrebu mewn cyfweliad swydd.
Yr hyn ni all Mynediad at Waith dalu amdano
Ni all Mynediad at Waith dalu am addasiadau rhesymol. Mae rhain yn newidiadau mae鈥檔 rhaid i鈥檆h cyflogwr wneud i鈥檆h cefnogi chi i wneud eich swydd.
Bydd Mynediad at Waith yn cynghori eich cyflogwr os ddylai newidiadau gael eu gwneud fel addasiadau rhesymol.