Mynediad at Waith: cael cefnogaeth os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd
Hawlio arian o鈥檆h grant
Gallwch hawlio arian o鈥檆h grant ar-lein neu drwy鈥檙 post.
I hawlio arian o鈥檆h grant ar-lein, bydd angen i chi greu cyfrif.
Beth sydd angen arnoch i hawlio
I greu cyfrif byddwch angen:
- cyfeiriad e-bost
- mynediad at ff么n symudol
- eich rhif Yswiriant Gwladol
Bydd angen i chi brofi eich hunaniaeth gan ddefnyddio manylion o 2 ffynhonnell, er enghraifft:
- pasbort y DU dilys
- slip cyflog o fewn y 3 mis diwethaf neu P60 cyfredol
- eich cyfrifon banc, benthyciadau, morgeisi neu gytundebau credyd
- eich ffurflen dreth Hunanasesu mwyaf diweddar
- eich taliad credyd treth fwyaf diweddar, os ydych yn eu hawlio
Os na allwch brofi eich hunaniaeth gyda manylion o 2 o鈥檙 ffynonellau hyn, bydd angen i chi wneud cais trwy鈥檙 post.
I hawlio arian o鈥檆h grant bydd angen i chi ddarparu:
- y dyddiadau wnaethoch gael cymorth
- anfonebau neu dderbynebau鈥檔 dangos cost eich cymorth
- manylion banc y person neu gwmni a fydd yn derbyn yr arian o鈥檙 grant
Efallai byddwch hefyd angen manylion cyswllt o鈥檙 gweithle a all gadarnhau鈥檙 cymorth rydych yn gwneud cais amdano.
Hawlio arian o鈥檆h grant
Hawlio trwy鈥檙 post
Cwblhewch y ffurflen gais papur a anfonwyd gyda鈥檆h Llythyr Penderfyniad Mynediad at Waith i hawlio arian o鈥檆h grant trwy鈥檙 post.
Mae angen i chi gynnwys unrhyw anfonebau neu dderbynebau y gofynnir amdanynt yn y ffurflen gais. Gallwch anfon cop茂au os nad oes gennych y rhai gwreiddiol.
Gallwch ffonio鈥檙 llinell gymorth Mynediad at Waith i gael ffurflen gais papur os oes angen un arnoch.
Os ydych angen help gyda鈥檆h cais
Ffoniwch linell gymorth Mynediad at Waith os:
- ydych angen help gyda鈥檆h cais
- nad oes gennych y wybodaeth sydd ei angen i wneud cais
- ydych angen help i sefydlu eich cyfrif ar-lein
- yw eich grant yn rhedeg allan ac rydych angen mwy o arian i dalu am rywbeth mae eich llythyr penderfyniad yn nodi sydd ei angen arnoch.
Llinell gymorth Mynediad at Waith
Ff么n: 0800 121 7479
Ff么n testun: 0800 121 7579
(os na allwch glywed neu siarad dros y ff么n): 18001 yna 0800 121 7479
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur 鈥� darganfyddwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfod am gostau galwadau
Os yw galwadau ff么n yn anodd i chi (er enghraifft, oherwydd eich bod yn fyddar neu drwm eich clyw), fe allwch ofyn i holl gyfathrebu fod drwy gyfrwng e-bost yn lle.